Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Brexit a Shamima Begum

Arwyn Jones a'i westeion yn trafod Brexit a Shamima Begum. Arwyn Jones and guests discuss Brexit and Shamima Begum.

Wrth i Aelodau Seneddol ddechrau gadael eu pleidiau gwleidyddol oherwydd eu hanfodlonrwydd ynglŷn â thrafodaethau Brexit, a fydd y datblygiad diweddaraf yma'n cael unrhyw effaith o gwbl ar y cynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd ar y nawfed ar hugain o Fawrth?

Trafodaeth hefyd ar sefyllfa Shamima Begum. Bedair blynedd ar ôl iddi adael dwyrain Llundain er mwyn ymuno â'r Wladwriaeth Islamaidd yn Syria, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi dirymu ei dinasyddiaeth Brydeinig, ond mae teulu'r ddynes ifanc - sydd newydd roi genedigaeth i fab yn Syria - yn bwriadu mynd â'r mater i'r llysoedd. A ddylai hi gael dychwelyd, ynteu a oedd Sajid Javid yn rhy fyrbwyll?

Hywel Price, Melanie Owen a Keith Morris sy'n ymuno ag Arwyn Jones.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 22 Chwef 2019 12:00

Darllediad

  • Gwen 22 Chwef 2019 12:00

Podlediad