Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Brexit a Churchill

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit a Syr Winston Churchill. Vaughan Roderick and guests discuss Brexit and Sir Winston Churchill.

Ar ôl i Theresa May gael ei threchu eto yn Nhŷ'r Cyffredin, gyda mwyafrif o bedwar deg pump wedi pleidleisio'n erbyn ei strategaeth ar gyfer trafod telerau Brexit, beth nesaf? Pleidlais symbolaidd oedd hon, felly does dim gorfodaeth ar Mrs. May i newid ei strategaeth, ond dim ond chwech wythnos sydd i fynd bellach...

Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod Syr Winston Churchill, ar ôl i Ganghellor yr Wrthblaid yn San Steffan ei alw'n ddihiryn. Roedd John McDonnell yn cyfeirio'n benodol at sut y deliodd Churchill gyda glowyr Tonypandy'n mynd ar streic yn 1910. Beth yw barn y panel, tybed?

Dr. Elin Jones, Gwynn Angell Jones a Meg Elis sy'n ymuno â Vaughan.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 15 Chwef 2019 12:00

Darllediad

  • Gwen 15 Chwef 2019 12:00

Podlediad