Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Y Camsyniad Mawr

Can mlynedd a hanner ers i'r Cymry fentro am Batagonia. Current historical views on an ambitious project in which a group of Welsh people ventured to Patagonia 150 years ago.

Ar drothwy dathliadau 150 y Wladfa, Jon Gower sy’n olrhain yr hanes ac yn holi rhai o’r cwestiynnau mwy anghyfforddus ynglŷn â’r fenter ar y pryd - ac hefyd ein hagwedd ni tuag at y Wladfa heddiw.

Bydd barn arbenigol gan haneswyr a sylwebwyr ar y Wladfa: Elvey McDonald; Y Darlithydd E.Wyn James; Ceris Gruffudd, ysgrifennydd y Gymdeithas Cymru Ariannin; Eirionedd Baskerville, hefyd o’r Gymdeithas Cymru Ariannin; y bardd a’r awdur Bobi Jones; y canwr o Batagonia, Rene Griffiths; yr actores o Batagonia sydd bellach yn y gyfres ‘Pobol y Cwm’, Elizabeth Fernandez, a’r hanesydd D.L.Davies.

Yn ogystal, mae darnau o ddyddiadur Seth Jones, a oedd ar fwrdd y llong Y Mimosa ar y daith, wedi eu dramateiddio gyda Dylan Owen.

Mae Sian Moran, nyrs yn Ysbyty Treforys, wedi cyfansoddi can arbennig am y fenter, ‘Gwynt teg i’r Mimosa’, ac fe recordiwyd y gân o’r newydd ar gyfer y rhaglen.

45 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 20 Awst 2015 18:15

Darllediadau

  • Mer 20 Mai 2015 18:15
  • Sul 24 Mai 2015 10:00
  • Iau 20 Awst 2015 18:15

Dan sylw yn...