Main content

Adnoddau dysgu

Dyma adnoddau addysgol yn seiliedig ar y pum merch wedi eu hanelu at athrawon Cyfnod Allweddol 2. Mae pob pecyn dysgu yn cynnwys ffilm, cynllun gwers a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed.

Mae’r adnoddau yn rhoi cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y merched, a’n eu cymharu gyda Chymru fodern.

Mae’r cynnwys yn mapio at elfennau o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Elizabeth Andrews, 1882 - 1960

Gwyliwch y ddau fideo Elizabeth Andrews a Gwleidyddiaeth a Ffeminisiaeth er mwyn dysgu am gydraddoldeb a sut mae digwyddiadau yn y gorffennol wedi dylanwadu ar hawliau merched yng Nghymru heddiw gyda’r .

Betty Campbell, 1935 - 2017

Gwyliwch y ddau fideo Betty Campbell a Y Chwyldro Diwydiannol ac Amlddiwylliant er mwyn dysgu am ddigwyddiadau hanesyddol sydd wedi cael effaith ar ffordd o fyw yng Nghymru heddiw gyda’r .

Cranogwen (Sarah Jane Rees), 1839 - 1916

Gwyliwch y ddau fideo Cranogwen (Sarah Jane Rees) a Y Mudiad Dirwestol er mwyn dysgu sut i gyflwyno araith ac ymchwilio gwybodaeth am wledydd cyferbyniol gyda’r .

Elaine Morgan, 1920 - 2013

Gwyliwch y ddau fideo Elaine Morgan a Cydraddoldeb er mwyn dysgu am empathi a chydymdeimlad â digwyddiadau a phobl yn y gorffennol gyda’r .

Arglwyddes Rhondda (Margaret Haig Thomas), 1883 - 1958

Gwyliwch y ddau fideo Arglwyddes Rhondda (Margaret Haig Thomas) a Swyddi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn dysgu am gyfraniad merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r .