Main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwranda Nei Di

(Diweddariad i’r Hysbysiad Preifatrwydd 27/08/23. Mae’r cyfnod cadw data wedi ei ddiweddaru.)

Hysbysiad Preifatrwydd Cystadleuaeth Gwranda Nei Di Aled Hughes

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y ±«Óãtv wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam ydym ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae cynulleidfaoedd wrth galon popeth a wnawn yn y ±«Óãtv. Byddwn yn annog ein cynulleidfa i gymryd rhan a chyfrannu mewn sawl ffordd, gan gynnwys cystadlaethau ffôn.

Bydd gwybodaeth sut i gymryd rhan yn cael ei rannu ar yr awyr a bydd hyn yn cynnwys unrhyw reolau i’r gystadleuaeth arbennig honno.

Os fyddwch yn cymryd rhan ar yr awyr, gall hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar y we / ar alw, a gall eich cyfraniad gael ei ddefnyddio eto yn y dyfodol.

Fe ellir defnyddio eich cyfraniad ar gyfer pwrpas hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y ±«Óãtv.

Pa ddata personol fydd yn cael ei gasglu a sut fyddwn yn ei ddefnyddio?

Bydd y ±«Óãtv yn casglu a phrosesu eich data ar gyfer gweinyddu’r gystadleuaeth ffôn, cadw cofnod o enillwyr ar gyfer cydymffurfio a rheoleiddio, i greu cynnwys ac i anfon y wobr i’r enillydd.

Data personol

Yn ddibynol ar natur y gystadleuaeth, fe all y ±«Óãtv gasglu a phrosesu’r data personol yma:

  • Eich enw llawn
  • Eich rhif ffôn
  • Eich oedran, neu gadarnhad eich bod yn ddigon hen i gymryd rhan
  • Recordiad o’ch llais
  • Eich barn, atebion i’n cwestiynau a hynny o’ch cefndir yr ydych am ei rannu.

Os byddwch yn ennill y gystadleuaeth, byddwn hefyd yn casglu ac yn prosesu eich cyfeiriad post i anfon y wobr i chi.

Pwy yw’r Rheolydd Data?

Y ±«Óãtv yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r ±«Óãtv fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y ±«Óãtv gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, a dangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol

Mae’r ffordd y mae’r ±«Óãtv yn prosesu’ch data personol wedi’i seilio’n gyfreithiol ar gyflawni ei rôl gyhoeddus. Rôl y ±«Óãtv yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae gennym hefyd ddyletswydd gyfreithiol i brosesu data personol yn unol a’r rheolau cystadlaethau perthnasol.

Rhannu eich data personol

Mae’r ±«Óãtv yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Mae’r partneriaid hyn yn defnyddio’ch data personol ar ran y ±«Óãtv yn unig, ac nid yn annibynnol ar y ±«Óãtv. Ar gyfer cydstadlaethau ffôn byddwn yn defnyddio platfform ffôn trydydd parti.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol

Mae data personol, fel eich rhif ffôn ac unrhyw recordiadau o fewn y sustem ffôn yn cael eu cadw am 6 (chwe) mis ac wedyn yn cael eu dileu.

Bydd y ±«Óãtv yn cadw data personol ymgeiswyr aflwyddiannus am 1 dydd.

Bydd data personol yr enillydd yn cael ei gadw am gyfnod o ddwy (2) flynedd at ddibenion rheoleiddio a chydymffurfio, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddileu.

Os bydd eich cyfraniad yn cael ei ddefnyddio i’w ddarlledu, bydd eich data personol yn cael ei gadw a’i archifo gan y ±«Óãtv am byth.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:

  • Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r ±«Óãtv yn ei storio amdanoch chi.
  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
  • Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r ±«Óãtv wrthod eich cais.
  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
  • Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau neu os ydych eisiau mwy o fanylion ynglÅ·n â’ch hawliau, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y ±«Óãtv yn http://www.bbc.co.uk/privacy.

Os oes gennych bryder ynglÅ·n â’r ffordd y mae'r ±«Óãtv wedi trin eich data personol, gallwch godi’r mater gyda'r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .

Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydym ni’n defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.