±«Óãtv

Y Farwolaeth Fawr: Pla Du 1349-50

Esgyrn yn eglwys Hythe yn Lloegr

gan Catrin Stevens

Ar ddechrau mis Mawrth 1349, cyrhaeddodd y pla du Gymru. Roedd wedi dechrau yn Tsieina, ysgubo ar draws Ewrop cyn cyrraedd Prydain. Trwy Fryste, ar draws afon Hafren y daeth i Gymru, mae'n debyg, gan ladd mab Arglwydd y Fenni yn ystod y mis Mawrth hwnnw. O fewn blwyddyn, byddai wedi lladd traean y boblogaeth, yn ôl y croniclydd Seisnig, Geoffrey le Baker. Dyma'r trychineb mwyaf i effeithio ar orllewin Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol.

Beth oedd y Pla Du?

Câi germ y pla du, y pasturella pestis, ei gario gan chwain yn byw ar gyrff y llygod mawr ar y llongau yn y porthladdoedd mawr. Byddai'r chwain yn brathu'r croen, ac ymhen dim byddai symptomau'r pla yn ymddangos: tisian, pothelli hyll a chwyddi du o dan y ceseiliau. Yna, byddai'r cnawd yn pydru a'r arogl yn annioddefol. Byddai'r corff yn troi yn ddu ac o fewn tri i bedwar diwrnod byddai'r claf wedi marw.

Oedd modd ei osgoi neu ei wella?

Does dim un feddyginiaeth i wella'r pla du heddiw, ac yn sicr, doedd gan feddygon yr Oesoedd Canol ddim byd i'w gynnig. Un awgrym oedd gwneud meddyginiaeth lysieuol, gan gymysgu llond dwrn yr un o saets, y wermod wen a rhosmari mewn gwydraid o win Malmsi, ac yfed dwy lwyaid o'r cymysgedd. Roedd rhai yn credu mai cosb Duw oedd yr haint dychrynllyd ac felly bydden nhw'n eu cosbi'u hunain trwy fflangellu'u cyrff nes eu bod yn gwaedu. Gorymdeithiodd miloedd o fflangellwyr o'r fath i Tournai (yng Ngwlad Belg heddiw) yn ystod haf 1349. Ceisiai rhai eraill roi'r bai ar garfan benodol o'r gymdeithas. Cafodd miloedd o Iddewon yn yr Almaen a Gwlad Belg eu herlid a'u llofruddio. Ym Mainz llofruddiwyd cymuned gyfan o Iddewon.

Pwy gafodd eu heffeithio'n bennaf?

Llun yn dangos sgerbwd yn ymosod ar berson iach
Dehongliad o'r pla mewn paentiad canoloesol

Doedd y Farwolaeth Fawr ddim yn gwahaniaethu rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Eto, mae'n bur debyg mai pobl yn byw ar eu pennau'i gilydd mewn pentrefi a threfi oedd yn dioddef waethaf, a chan fod poblogaeth Cymru'n wasgaredig, efallai na ddioddefodd lawn cynddrwg â gwledydd eraill.

Ar y llaw arall, mae'n anodd iawn mesur y colledion, gan fod y rhai oedd yn cadw cofnodion wedi marw hefyd. Ymhlith y rhai fu farw yr oedd:

  • 36 o 40 tenant maenor Caldicot, Gwent;
  • mwynwyr plwm Treffynnon;
  • milwyr yng ngarsiwn castell Harlech;
  • 77 o fwrdeisiaid Rhuthun, mewn pythefnos ym mis Mehefin 1349;
  • bu brodyr yr Urdd Ffransisgaidd yn gydwybodol yn ymgeleddu'r cleifion, ond yn anffodus collodd llawer ohonyn nhw'u bywydau.

Beth oedd effeithiau'r pla du?

Cafodd y pla effeithiau cymdeithasol ac economaidd difrifol iawn, yn y tymor byr a'r tymor hir.

  • Diflannodd rhai pentrefi a maenorau yn gyfan gwbl, e.e. maenor Llanllwch, Caerfyrddin, lle bu farw pob tenant, a chafodd pentref Radyr, Morgannwg, ei droi yn barc ceirw. Aeth melin Dolwyddelan â'i phen iddi.
  • Oherwydd prinder tenantiaid a thlodi'r rhai hynny oedd ar ôl, roedd llawer o renti heb eu talu, e.e. yn Arglwyddiaeth Penfro.
  • Manteisiodd rhai tenantiaid ar y sefyllfa trwy ehangu'u daliadau a chreu stadau newydd o'r gweddillion. Casglodd Iorwerth Ddu ab Ednyfed Gam o'r Waun stad sylweddol, a daeth hon yn sail cyfoeth teulu Mostyn yn ddiweddarach.
  • Oherwydd nad oedd digon o lafurwyr i aredig y tir, aeth llawer o dir âr yn dir pori, a daeth bri ar fagu defaid yn arbennig.
  • Ffodd llawer o'r llafurwyr o'u maenorau, lle roedden nhw'n gaeth i weithio i'w harglwyddi. Daethon nhw'n weithwyr cyflogedig, rhydd. Pasiodd y senedd Ddeddf y Llafurwyr yn 1351 i osod uchafswm cyflog, er mwyn rheoli'r newidiadau cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol hyn.
  • Mewn maenorau eraill cafodd y llafurwyr oedd ar ôl eu clymu yn dynnach at y pridd, a'u gwneud yn fwy caeth fyth. Yn Ffrainc, arweiniodd sefyllfa'r llafurwyr at wrthryfel yn 1358, ac yn Lloegr at Wrthryfel y Werin yn 1381.

Rhwng popeth, rhwng 1350 ac 1450, cafodd cyfoeth ei ail-ddosbarthu yn sylweddol iawn.

Dychwelodd y Pla Du yn 1361-2, 1369 ac 1420. Dyma'r 'byd dudrist' a oedd yn gefnlen i wrthryfel Glyndŵr, ar ddechrau'r bymthegfed ganrif. Does ryfedd fod y Cymry wedi galw'r Pla Du yn 'Y Farwolaeth Fawr'.


About this page

This is a history page for schools about the Black Death in Wales. This deadly disease which swept through Europe in the Middle Ages changed the social and economic structure of Wales and completely wiped out some communities. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y ±«Óãtv am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.