±«Óãtv

"Falch o ddod nôl"

Cyril Fathers

Er iddo adael Cymru wedi 13 mlynedd fel ifaciwî yng Nghilgerran, parhaodd y diweddar Cyril Fathers i ymarfer ei Gymraeg yn Lloegr.

Cafodd ei dynnu nôl i'r pentref fu'n lloches iddo dros yr Ail Ryfel Byd ar ddiwedd ei oes.

23 Hydref 2008

"Dwi'n cofio'r diwrnod y des i draw i Gymru fel evacuee. Mehefin 23, 1940 oedd y dyddiad, tri diwrnod cyn fy mhen-blwydd yn 12 oed. Cefais fy anfon i Gilgerran.

"Mr a Mrs Dafydd John oedd yn gofalu amdanaf. Roeddent yn strict ond roeddwn i'n cael digon o fwyd. Roedd ffarm bach 'da nhw, ac roeddwn i'n helpu ar y ffarm. Yn y gaeaf roedd yncl Dai a fi yn mynd i roi bwyd i'r da - rhoi gwair iddyn nhw. Dysges i wrth yncl Dai sut i ofalu am greaduriaid.

"Rwy'n cofio yr amser yn yr ysgol yn Capel Newydd. Dysges i Gymraeg. Cefais amser da yn ystod amser cinio ac ar y penwythnos. Roedd yn rhaid i ni gerdded tair milltir i'r ysgol ymhob tywydd, ac un amser pan es i i'r ysgol roedd yn bwrw eira. Wnes i gerdded tair milltir i'r ysgol, ond roedd rhai heb fynd gan ei bod yn bwrw eira. Doedd yr athrawes ddim yn deall pam bo fi wedi dod i'r ysgol!

"Ar ôl gorffen yn yr ysgol gweithies i ar dair ffarm ac roedd pob ffarm yn wahanol. Rhai yn dda, rhai ddim mor dda.

"Pan es i nôl i Lloegr ar ôl 13 mlynedd yng Nghymru - wedd neb yn Lloegr yn gallu siarad Cymraeg. Wnes i gyfarfod rhai Cymry yn Lloegr - rhai yn siarad Cymraeg, byddwn yn siarad â nhw er mwyn i mi gadw fy Nghymraeg pan o'n i bant yn Lloegr.

"Dw i nawr wedi dod nôl i Gilgerran i fyw ac er fy mod wedi ymddeol rwy'n dal i weithio! Dwi wedi dysgu ci defaid a dwi wedi trial cŵn defaid ambell waith ond nawr rwy'n gweithio gyda hwyaid â chŵn yn lle defaid!

"Er bod pobl yn credu fod y Cymry yn hen ffasiwn, rwy'n credu fod hynny'n dda. Maent yn gwneud i chi deimlo'n gartrefol, ac maent yn eich helpu. Rwy'n hapus fy mod yn byw yng Nghilgerran ac er fy mod wedi byw yn Lloegr am 51 mlynedd rwy'n falch fy mod wedi dod nôl i Gilgerran. Ble sydd â gwell golygfeydd?!"

Daeth y diweddar Cyril Fathers o Gilgerran ar fwrdd bws ±«Óãtv Cymru yn Aberteifi i adrodd ei hanes. Hunodd Mr Fathers ar 21 Medi 2008.

Atgofion eraill gan, ac am, faciwîs:


Anfonwyd tri theulu nôl i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.

Gogledd ddwyrain

Arfau cemegol

Ffatri gemegau

Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.

Gogledd orllewin

Milwyr yn yr Aifft

Straeon rhyfel

O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.

Canolbarth

Parti stryd

Diwrnod VE

Dathlu diwedd y rhyfel ac atgofion ifaciwîs gan bobl y canolbarth.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.