±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Côr Meibion y Cymric Gleemen ±«Óãtv Bangor a'r rhyfel
Wrth i'r bomiau syrthio ar Lundain yn ystod yr Ail Ryfel byd, symudwyd adran adloniant ysgafn y ±«Óãtv gan ddechrau pennod newydd yn hanes darlledu ym Mangor: Vernon Jones o Langefni sy'n cofio.

"Roedd darlledu o Fangor yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn gyfnod eithaf cyffrous. Oherwydd y bomio trwm ar Lundain a Bryste fe drosglwyddwyd Adran Adloniant Ysgafn Saesneg, a oedd yn cynnwys cyfresi fel ITMA a Ray's a Laugh i'r County Theatre ym Mangor.

"I'r theatr hon, hefyd, y daeth y ±«Óãtv Theatre Organ, a'r organydd Sandy MacPhearson, a oedd yn enw adnabyddus iawn ar y pryd. Roedd o'n byw yn Llandudno, ac fe fyddai'n teithio i Fangor bob dydd efo bws, a dyna lle cefais i gyfle i'w adnabod.

"Ar wahân i enwau mawr adloniant y Saeson, roedd corau ac artistiaid gogledd Cymru hefyd yn cynhyrchu llawer iawn o raglenni Cymraeg a Saesneg ar gyfer y lluoedd arfog yn bennaf.

"'Roeddwn i'n aelod (ifanc iawn!) o Gôr Meibion y Cymric Gleemen o Benmaenmawr, ac fe gawsom gyfle i gymryd rhan mewn dwsinau o raglenni fel Strike a ±«Óãtv Note a'r Noson Lawen. Roedd yn rhaid i ni ddysgu tri neu bedwar o ddarnau newydd bob wythnos a'u recordio yn y County Theatre bob Sul. Roedd 'na dipyn o weld bai gan rai aelodau'r capeli oherwydd bod lleisiau gorau'r gynulleidfa yn absennol o'r gwasanaethau!

"Dwi'n cofio mai'r Cymric Gleemen a chriw o fechgyn o Fethesda gyflwynodd, am y tro cyntaf, y gân We'll keep a Welcome a Nos Da gan Mai Jones. Hi, wrth gwrs, oedd cynhyrchydd y rhaglenni hyn. Storm o ddynes oedd Mai Jones, ac fe fyddai'n ein rheoli ni â chwip ei thafod ac yn mynnu cael perffeithrwydd ym mhob datganiad."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý