±«Óãtv

Dyfodiad y Normaniaid

Abaty Tyndyrn © Mary Jones

23 Mawrth 2009

Y Normaniaid a'r Eglwys

Er gwaethaf treisgarwch y Normaniaid, roeddynt yn dduwiol yn eu ffordd ac yn deyrngar i'r Babaeth a oedd wedi bendithio'u hymosodiad ar Loegr. Ystyrient fod rheolaeth dros yr Eglwys Gymreig yn hanfodol i'w grym yng Nghymru. Roeddynt hefyd yn frwd i hybu buddiannau Rhufain ac i wneud Cymru'n gyflawn aelod o'r Ewrop Ladin. Felly, diddymwyd y clasau Celtaidd a rhoddwyd eu heiddo i ganolfannau eglwysig yn Lloegr neu Ffrainc. Yng Nghas-gwent, Ewenni a mannau eraill, sefydlwyd mynachlogydd urdd y Benedictiaid. Cyflwynwyd i Gymru hefyd yr urddau newydd a oedd wedi'u sefydlu yn Ffrainc - urddau Cluny, Tiron, Savigny a Cîteaux yn eu plith. Aildrefnwyd esgobaethau Cymru a phennwyd ffiniau pendant iddynt. Sicrhawyd bod pedwar esgob Cymru yn atebol i awdurdod archesgob Caergaint, ac adeiladwyd cadeirlannau'r wlad yn yr arddull Romanésg. Rhannwyd yr esgobaethau'n blwyfi a mynnwyd ufudd-dod i Gyfraith Ganonaidd Eglwys Rhufain.

Newid cymdeithasol

Darfu i oresgyniad y Normaniaid gyd-ddigwydd ag adfywiad yn economi Ewrop ac â gwelliant yn yr hinsawdd. Cynyddodd y boblogaeth a sefydlwyd bwrdeistrefi. Yn y Mers, denwyd i'r bwrdeistrefi bobl y gallai'r Normaniaid ddibynnu ar eu teyrngarwch - mewnfudwyr o Loegr gan fwyaf. O hynny y deilliodd y syniad bod trefi yn ddatblygiad estron yng Nghymru; fodd bynnag, sefydlwyd trefi hefyd yn yr ardaloedd a oedd o dan reolaeth frodorol. Yn ychwanegol, sicrhaodd y Normaniaid bod estroniaid yn ymsefydlu mewn rhannau o'r Gymru wledig - Gwyr, Penfro a Bro Morgannwg yn fwyaf arbennig. Er mai Cymry oedd trwch trigolion y Mers, roedd gan yr arglwyddiaethau yno eu Saesonaethau - tiriogaethau ger y castell a'r fwrdeistref lle trigai mewnfudwyr.

Y rhanbarthau o dan reolaeth Gymreig

Tra roedd arglwyddi'r Mers yn tynhau eu gafael dros yr iseldiroedd a'r gororau, roedd y rheolwyr Cymreig hefyd yn ceisio ymgryfhau. Madog ap Maredudd (m.1160) oedd yn ben ym Mhowys, Owain ap Gruffudd (Owain Gwynedd; m.1170) yng Ngwynedd a Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys; m.1197) yn Neheubarth. Ceisiodd Rhys hefyd amddiffyn buddiannau'r mân reolwyr Cymreig yng ngogledd Morgannwg ac yn yr ucheldiroedd rhwng dyffrynnoedd Hafren a Gwy. Ceisiwyd efelychu'r Normaniaid trwy godi cestyll a defnyddio marchogion. Gwerthfawrogwyd rhinweddau'r urddau mynachaidd newydd. Erbyn dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, roedd gan bob un o'r rheolwyr Cymreig fynachlog a berthynai i Urdd Cîteaux. Cynigai mynachlogydd Sistersaidd megis Ystrad-fflur a Glyn-y-groes fannau cyfarfod a mannau claddu iddynt, ac oddi mewn i furiau carreg yr abatai y diogelwyd cyfran helaeth o'r hyn a oroesodd o lenyddiaeth gynnar y Cymry.

Swyddogaeth Brenin Lloegr

Roedd rheidrwydd ar bob un o'r rheolwyr Cymreig i gydnabod awdurdod brenin Lloegr. O ganlyniad, gwnaeth brenhinoedd megis Harri I a Harri II ymyrryd fwyfwy yng ngwleidyddiaeth Cymru. Felly, ochr yn ochr â hyder cynyddol y rheolwyr Cymreig, gwelwyd twf grym brenin Lloegr yng Nghymru. Aeth Gerallt Gymro - yntau o waed cymysg, Normanaidd a Chymreig - i'r afael â'r ddwy wedd hon. Yn ei Ddisgrifiad o Gymru (1193) mae'n neilltuo pennod i drafod sut y gallai brenin Lloegr lwyr goncro Cymru, a phennod arall i gynghori'r Cymry sut i wrthwynebu hynny.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.