±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Sir Conwy

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llansannan
Rhiannon Davies Sefydliad y Merched
Wrth fynd drwy gofnodion dros 60 mlynedd o gyfarfodydd Sefydliad y Merched yn ei phentref, rhyfeddodd Rhiannon Davies at y trysor o hanes cymdeithasol oedd ynddynt.
Ar ôl cael ei gwneud yn llywydd cangen y sefydliad yn Llansannan am flwyddyn, rhoddodd sgwrs i'r aelodau yn pwysleisio pwysigrwydd hanesyddol y cofnodion yn y ffordd fel roedd rhaglenni'r cyfarfodydd yn newid - o gadw moch i ail-ddefnyddio hetiau:

"Cefais bentwr o lyfrau cofnodion Sefydliad y Merched ers ei sefydlu 60 mlynedd yn ôl. Gan fy mod yn weddol newydd i'r mudiad, roedd eu darllen nid yn unig yn agoriad llygad i mi, ond yn hynod o ddiddorol. I ddechrau roeddwn yn adnabod y rhan fwyaf o'r aelodau cyntaf, ac yn wir roedd gen i gysylltiad teuluol â rhai ohonynt.

Aelodau'r WI gyda thlysau a enillasant, 1946 (Grŵp Archif Bro Aled) Nid yn unig roedd y cofnodion yn ddifyr tu hwnt i'w darllen ond fe wnaethon nhw fi'n llawer mwy ymwybodol o ddyfeisiadau a darganfyddiadau'r oes.

Dyma ichi rai enghreifftiau: yn y dyddiau cynnar, yn y 30au, roedd cyfarfodydd am beth i'w wneud efo hen hetiau ffelt a hen sanau sidan lyle, y sanau roedd pawb yn eu gwisgo bryd hynny. Yn yr 1980au roedd dangosiadau ar beth i'w wneud efo teits neilon a choginio efo meicrodon.

Mae'r hen raglenni yn nodi sgyrsiau a dangosiadau am dressings and poultices, sut i arwain côr, cadw ieir, cymorth cyntaf i dda byw, bwyd i bobl sâl, sut i ofalu am gleifion sy'n dioddef o'r diciâu.

Ar Ddydd Gŵyl Ddewi fe gawson nhw sgwrs am 'Aelwyd Grefyddol' - a fwynhawyd yn fawr gan bawb!

Roedd y cystadlaethau hefyd yn ddiddorol: gwnïo botwm gyda'r llaw chwith, trwsio sawdl hosan, cystadleuaeth grempogau yn cael ei beirniadu gan Mr Morgan yr optegydd, y sawdl hosan orau, llymru ar gyfer claf.

A rŵan am y pytiau bach sydd o ddiddordeb mawr i mi ond mae'n bechod na wnaeth yr ysgrifennydd eu cofnodi yn fwy manwl:

  • Yn 1934 gwahoddwyd Mrs R Preswylfa i gyfarfod i helpu i olchi'r llestri ac roedd i gael 1/- yn dâl am eu gwasanaeth.
  • Penderfynwyd bod 18 o weddwon i gael eu gwahodd i'r Parti Nadolig. Ai ymgais ar matchmaking ar ran y WI oedd hyn? Fe hoffwn wybod, 1) beth am yr hen lanciau a'r hen ferched, a 2) beth oedd y canlyniad?
  • O ddiddordeb arbennig imi oedd fod Morfudd Owen fach wedi cyflwyno tusw o Gennin Pedr i Ms Jenkins Williams.
  • Yn ystod y rhyfel roedd trafodaeth am y Clwb Moch - ond chafodd y cynnig i gadw mochyn ddim ei gario.
  • Byddai'r ysgrifenyddion ddim ond yn ysgrifennu'r esgyrn sychion yn y cofnodion heb yn wybod eu bod yn cofnodi rhywbeth a fyddai'n dod yn ddarn o hanes cymdeithasol.

    Yn ystod y 60 mlynedd mae'r sefydliad yma wedi trefnu dosbarthiadau mewn gwnïo, paentio crochenwaith, brodwaith, gwneud rygiau, dawnsio gwerin, cadw'n heini, yn ogystal â threfnu eisteddfod bentref, cyngerdd, sioe a hyd yn oed eu Noson Lawen eu hunain.

    Fe gefais fy synnu hefyd gan waith caled aelodau'r WI yn ystod y rhyfel:- gweu ar gyfer y milwyr, anfon arian, jamio, canio a photelu a llawer mwy.

    Cefais fy ethol yn llywydd ar y sefydliad am nad oedd neb arall eisiau'r swydd, er imi gytuno i'w llenwi, er yn anfoddog, am flwyddyn yn unig - ond teimlaf anrhydedd o fod wedi perthyn i Sefydliad y Merched yn Llansannan, sefydlaid ag iddo draddodiad mor wych."

    Rhiannon Davies


    Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Theatr


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý