±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cerdded
Cerdded arfordir Môn
Wedi dros flwyddyn o gerdded, mae clwb WI Llanfairfechan wedi cwblhau eu sialens o gerdded pob cam o lwybr arfordir Môn - ac maen nhw wedi bod yn anfon lluniau o'u taith o amgylch yr ynys aton ni ers y dechrau.

Cliciwch drwy'r lluniau isod i ddilyn y llwybr ar hyd rhan gyntaf eu taith cyn mynd ymlaen i'r ail oriel.

  • Lluniau rhan 2 y daith
  • Criw y WI yn Nulas.
    Roedd y daith gyntaf yn mynd â'r criw o Ddulas i Bwynt Lynas (goleudy Pwynt Lynas yn y cefndir). next page
    1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý 6Ìý 7Ìý 8Ìý 9Ìý 10Ìý
    11Ìý 12Ìý 13Ìý 14Ìý 15Ìý 16Ìý 17Ìý

    Eleri Lewis, cyn athrawes Daearyddiaeth, wnaeth ysbrydoli merched clwb WI Llanfairfechan i wisgo'u 'sgidiau cerdded a mynd ati i ddarganfod yr arfordir a mwynhau'r awyr iach.

    Meddai Eleri: "Ar ôl i mi ymddeol, roeddwn am i'r WI wneud rhywbeth arall heblaw cyfarfod bob dydd Llun cynta'r mis am sgwrs, felly ffurfiais glwb cerdded.

    Mae 'na bron i ddeg ohonom yn mynd yn rheolaidd ac yn lle chwilio am rywle arall rownd Llanfairfechan i fynd am dro, ddaru ni benderfynu gwneud rhywbeth gyda mwy o sialens, fel cerdded llwybr arfordir Môn - ond ddim i gyd ar unwaith!"

    Fe gychwynnodd y criw yn Nulas fis Mai 2006 a cherdded i fyny'r ochr ddwyreiniol.

    Bu'r tywydd yn eu herbyn yn ystod haf 2007 ond fe wnaethon nhw gwblhau'r rhan olaf - o Foelfre i Ddulas - ar ddiwrnod olaf mis Hydref 2007.

    "Mae'r llwybr yn wych, mae'n mynd â chi i lefydd nad ydych chi'n meddwl mynd gan fod rhai ohonyn nhw yn hollol anghysbell. Wrth ddilyn y llwybr, mi ddowch ar draws golygfeydd anhygoel. Mae'n reit arw i fyny yn y gogledd, ond yn braf iawn i lawr ger Ynys Llanddwyn yn yr haf," meddai Eleri.

    Diolch yn fawr iawn i Eleri a'r criw am rannu'r daith efo ni a llongyfarchiadau am ei chwblhau!

  • Mwy am lwybr yr arfordir

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý