±«Óãtv

Manylion Eisteddfod Wrecsam

Pafiliwn pinc

Manylion Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.

Pryd? 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011

Ble?
Y Maes Tir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam.

Maes B Campws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam yw lleoliad gigs Maes B eleni. Bydd dau lwyfan gyda chymysgedd o gerddoriaeth. Bydd bysiau gwennol rheolaidd yn rhedeg rhwng y maes carafannau / y maes ieuenctid a Phrifysgol Glyndŵr (lleoliad Maes B), gyda'r nos. Am fwy o wybodaeth am Faes B ewch i flog C2 neu i wefan Maes B

Maes C a'r maes carafannau Mae'r maes carafannau wedi ei leoli wrth ymyl Maes yr Eisteddfod ar dir fferm Bers Isaf. Cynhelir digwyddiadau nos Maes C yn Ysgol Clywedog (yr hen Ysgol Bryn Offa), sydd gyfochrog â'r maes carafannau. Gellir archebu tocynnau trwy gysylltu â'r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd bysiau gwennol rheolaidd yn rhedeg rhwng y maes carafannau / y maes ieuenctid a Phrifysgol Glyndwr (lleoliad Maes B), gyda'r nos.

Maes D Lleolir Maes D (pabell y dysgwyr) ar Faes yr Eisteddfod. Bydd nifer o weithgareddau trwy'r wythnos ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

Cyngherddau nos Cynhelir cyngherddau yn y Pafiliwn pinc ar Faes yr Eisteddfod bob nos. Am fanylion llawn cyngherddau 2011 ac i archebu tocynnau, ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gigs Cymdeithas yr Iaith Clwb Gorsaf Ganolog yn Stryt yr Allt (tu cefn i Regent St, prif stryd canol dre Wrecsam) yw lleoliad y gigs eleni. Ceir mwy o wybodaeth ar flog C2 a gwefan Cymdeithas yr Iaith.

Bysiau gwennol Bydd bysiau gwennol yn rhedeg yn rheolaidd pob deng munud rhwng y Maes, yr orsaf fysiau a'r orsaf drenau drwy'r dydd a than ddiwedd y cyngherddau nos. Bydd bysiau gwennol rheolaidd yn rhedeg rhwng y maes carafannau a'r maes ieuenctid a Phrifysgol Glyndŵr (lleoliad Maes B), gyda'r nos.

Gallwch gael manylion pellach ar sut i gyrraedd y Maes, lein-yp Maes B a Maes C a gwybodaeth am y cyngherddau nos ar wefan swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol

Cliciwch yma i weld map o'r prif leoliadau a thaith y bws wennol.

Sylwer: Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol


O'r Maes

Manon Rhys a Jim Parc Nest yr Archdderwydd

Yr wythnos a fu

Yr holl straeon, erthyglau am y prif enillwyr a chyfraniadau dyddiol Gwilym Owen.

Canlyniadau

Cordydd

Gwyliwch eto

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r prif seremonïau.

Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.

Sain a Fideo

Robat Powell

Clipiau archif

Clipiau arbennig o archif ±«Óãtv Cymru gan gynnwys cadeirio Robat Powell yn 1985.

Hanes

Eisteddfod yn Nghaerdydd yn 1960

Eisteddfodau

Lleoliadau ac enillwyr y gorffennol a chlipiau archif.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.