±«Óãtv

Seremonïau'r wythnos

Rhys Iorwerth

Rhestr o'r prif seremonïau ac enillwyr eleni a 2010.

Dydd Llun

Seremoni Coroni'r Bardd
16.30 Pafiliwn Tasg: Casgliad o gerddi heb fod dros 200 llinell: Gwythiennau Beirniaid: Gwyn Thomas, Alan Llwyd, Nesta Wyn Jones Cynlluniwyd y Goron eleni gan John Price o Fachynlleth.

Enillydd 2011: Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd Stori ;

Enillydd 2010: Glenys Mair Glyn Roberts o Lantrisant. ;

Dydd Mawrth

Seremoni Medal Syr T. H. Parry - Williams er clod
12.35pm Pafiliwn Eleni dyfarnwyd y wobr i Sydney Davies, Glyn Ceiriog. Stori newyddion.

Enillydd 2010: Leah Owen.

Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen 17.00 Pafiliwn Tasg: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Beirniaid: Emyr Llywelyn, Jon Gower, Elin Llwyd Morgan.

Enillydd 2011: Daniel Davies o Benbontrhydybeddau, Ceredigion ;

Enillydd 2010: Grace Roberts o'r Felinheli. ;

Dydd Mercher

Seremoni'r Prif Lenor Rhyddiaith a Chroesawu Cyfeillion o Wledydd Tramor
16.30
Pafiliwn
Tasg: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Gwrthryfel. Beirniaid: Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis.

Enillydd 2011: Manon Rhys o Gaerdydd. Stori; Clip fideo o'r seremoni

Enillydd 2010: Jerry Hunter. ;

Nos Fercher

Seremoni Tlws y Cerddor
19.15
Pafiliwn
Tasg: Cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr SATB yn ddigyfeiliant neu gyda chyfeiliant piano neu organ fyddai yn adlewyrchu dathliad yr Eisteddfod yn 150 mlwydd oed. Heb fod yn hwy na 5 munud. Beirniaid: Gareth Glyn a Guto Pryderi Puw

Enillydd 2011: Meirion Wynn Jones o Aberhonddu. ; Clip fideo o'r seremoni

Enillydd 2010: Christopher Painter o'r Barri. Stori; Clip fideo o'r seremoni

Dydd Iau

Cyflwyno enillydd Dysgwr y Flwyddyn
11.30
Pafiliwn

Enillydd 2011: Kay Holder. ;

Enillydd 2010: Julia Hawkins. Stori;

Cyflwyno Enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
11.40 Pafiliwn Eleni dyfarnwyd y wobr i Neville Evans o Radyr, Caerdydd am gyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Enillydd 2010: H. Gareth F. Roberts o Fangor.

Seremoni'r Fedal Ddrama
17:00
Pafiliwn
Bydd beirniaid y cystadlaethau cyfansoddi Drama hir a Drama fer yn dewis o blith y buddugwyr i dderbyn gwobr ychwanegol a gyflwynir yn ystod y seremoni hon.
Beirniaid: Arwel Gruffydd a Sharon Morgan.

Enillydd 2011: Rhian Staples o Abertawe. Stori; Seremoni Enillydd 2010: Neb yn deilwng.

Dydd Gwener

Seremoni Cadeirio'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell: Clawdd Terfyn. Beirniaid: Emyr Lewis, Donald Evans a Gruffydd Aled Williams

Enillydd 2011: Rhys Iorwerth o Gaerdydd. Stori; Stori Newyddion; Clip fideo o'r seremoni

Enillydd 2010: Tudur Hallam o Foelsgastell.

Eisteddfod Wrecsam a'r cylch 1977

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â Wrecsam oedd yn 1977 pan enillodd y bardd Donald Evans y 'dwbl' - y goron a'r gadair. Gwnaeth hyn eto yn Eisteddfod Dyffryn Lliw 1980. R. Gerallt Jones oedd enillydd y Fedal Ryddiaith am ei gyfrol Triptych. Yr archdderwydd yn 1977 oedd Bryn (R. Bryn Williams). Mwy o wybodaeth ar wefan

Gwybodaeth ychwanegol

Tua awr o hyd yw pob un o'r prif seremonïau (y Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio). Mae angen i bawb fod yn eu seddau erbyn 16.15. Ni agorir y drysau wedyn tan bod y seremoni wedi gorffen am tua 17.30 o'r gloch.


O'r Maes

Manon Rhys a Jim Parc Nest yr Archdderwydd

Yr wythnos a fu

Yr holl straeon, erthyglau am y prif enillwyr a chyfraniadau dyddiol Gwilym Owen.

Canlyniadau

Cordydd

Gwyliwch eto

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r prif seremonïau.

Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.

Sain a Fideo

Robat Powell

Clipiau archif

Clipiau arbennig o archif ±«Óãtv Cymru gan gynnwys cadeirio Robat Powell yn 1985.

Hanes

Eisteddfod yn Nghaerdydd yn 1960

Eisteddfodau

Lleoliadau ac enillwyr y gorffennol a chlipiau archif.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.