±«Óãtv

Canmol seremoni'r Fedal Ddrama

04 Awst 2011

Rhian Staples

Y fedal yn ddigon ynddi'i hun

Am y tro cyntaf iddi gystadlu a chyda dim ond yr ail ddrama iddi sgrifennu enillodd Rhian Staples Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.

Ac i'r seremoni i anrhydeddu y dramodydd buddugol ddod dan feirniadaeth yn y gorffennol dywedodd hi iddi fod yn gwbl hapus.

Yn siarad â'r wasg funudau wedi dod oddi ar y llwyfan dywedodd:

"Does dim angen i'r Orsedd fod yno mae'r Fedal yn sefyll dros ei hunan."

Ond fe alwodd am fwy o ddiddordeb yn y ddrama yn yr Eisteddfod yn gyffredinol.

"Beth sydd ei angen yw mwy o ddiddordeb yn y ddrama ar y maes a mwy o gwmniau yn cymryd rhan efo mwy o gynulleidfa yna. Dyna'r unig beth sydd ar goll, roedd y seremoni ei hunan yn fendigedig," meddai.

Dywedodd iddi fynd ati i sgrifennu y ddrama wedi clywed ar y newyddion am ddau nad oedd yn adnabod ei gilydd o gwbl yn cyfarfod drwy wefan "eitha tywyll" .

"Ond mae'r ddrama hefyd am fod yn ddeugain ac am bethau rydym yn eu cuddio ac am dorri addewidion," ychwanegodd.

Dywedodd nad oes unrhyw addewid hyd yn hyn i lwyfannu'r ddrama, beirniadaeth arall o'r gystadleuaeth hon yn y gorffennol, ond dywedodd mai ei dymuniad fyddai gweld ei llwyfannu.


Clip fideo o'r seremoni


Blogiau ±«Óãtv Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.