±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Olifer Plîs syr, ga' i fwy?
Dyna'r gri a glywyd nos Iau a nos Wener, Hydref 20 a 21, 2005, pan gyflwynodd Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi'r sioe gerdd "Olifar" yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.
Wedi eu llwyddiant yn 2004 gyda'r opera roc "Jac Ty Isha", dychwelodd yr Ysgol Berfformio i Theatr y Lyric gydag addasiad o sioe gerdd Lionel Bart (geiriau Cymraeg gan Aled Lloyd Davies ac Ednyfed Williams).

Y stori
Stori am fachgen amddifad yw "Olifar", sy'n dianc i Lundain ar ôl bywyd anodd yn y wyrcws. Cyn hir, mae'n cwrdd â chriw o gymeriadau lliwgar iawn sy'n ei dywys trwy hynt a helynt bywyd yn y ddinas fawr.

Trwy gydol y sioe, clywn y caneuon enwog 'Bwyd Bendigaid Fwyd' a 'Ystyria Dy Hun', i 'Wm Pa Pa' a 'Pwy a Bryn?'

Dan arweinyddiaeth Delyth Mai Nicholas, cyfarwyddwraig y sioe, bu'r grŵp o tua 80 o bobl ifanc o ddeg i ddeunaw oed yn ymarfer yn frwdfrydig yn ystod yr wyth wythnos diwethaf ar gampws Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Roedd y cast yn ysu am symud i lwyfan Theatr y Lyric ar gyfer yr ymarferion olaf cyn eu perfformiad cyntaf ar y nos Iau.

Cast
Yn chwarae'r prif rannau yn y cynhyrchiad roedd Guto Ifan (Olifar), Hanna Hopwood (Nancy), a Sion Ifan (Fagin).

Yn cymryd rhai o'r is-brif rannau roedd Aled Evans (Dodger), Iwan Williams (Bill Sykes), ac Aled Thomas (Mr Bumble).

Yn ogystal â'r corws, roedd nifer fawr o rannau eraill yn y sioe gan gynnwys Mrs Corney, criw'r Sowerberry's, Bet, a Mr Brownlow.

Cafwyd sgwrs gyflym gydag un o aelodau'r cast yn ystod wythnos olaf yr ymarferion.

Wyt ti'n mwynhau bod yn rhan o'r Ysgol Berfformio?
Ydw. Yn ogystal â cael y cyfle i berfformio sioe fyd enwog ar lwyfan o flaen cynulleidfa fawr, mae bod yn aelod o'r cast yn gyfle ardderchog i gymdeithasu . . . sy'n grêt!

A yw bod yn rhan o'r cast yn waith anodd?
Mae yna lot o waith i'w wneud er mwyn cael cynhyrchiad llwyddiannus, ac mae ymrwymiad yn bwysig iawn. Ond mae hi werth e yn y diwedd i weld y sioe yn ei gyfanwaith.

Beth yw dy hoff gân neu olygfa yn y sioe?
Mae bod yn rhan o'r olygfa 'Wm Pa Pa' yn ffantastig. Rydym ni fel cast yn gwir fwynhau canu'r gân, ac mae'r awyrgylch yn llawn hwyl.

Pwy yw dy hoff gymeriad yn y sioe?
Rydw i'n hoff iawn o Olifar. Mae'n gymeriad annwyl a diniwed. Does dim rhyfedd bod y sioe wedi'i enwi ar ei ôl.

Wedi'r sgwrs gofynnwyd i ddisgyblion yr ysgol i ateb y cwestiwn isod.

Pe baech chi, fel Olifar, yn gorfod gofyn am fwy o rywbeth, am beth fyddech chi'n gofyn?

Dyma rai o'r atebion a gafwyd:

Plîs syr, ga' i fwy o . . .
heddwch yn y byd,
amser,
cariad,
candifflos,
penwythnosau,
lasagne,
jeli,
synnwyr cyffredin,
llyfrau Harry Potter,
gwersi maths,
teisennau Mr Kipling.

Gan: Hefin Robinson a Rhydian Evans


Cyfrannwch

Sara Edwards
Cefais brofiad fythgofiwadwy yn gwneud y sioe yma
Wed Jan 23 20:54:57 2008

Chav o Gaerfyrddin
Roeddwn i yn Olifar!! Fi oedd un o'r bobl yn y dafarn ac yn nhy Fagin! Roedd yn brofiad bythgofiadwy, a gobeithiaf wneud rhywbeth tebyg eto.
Sun Jan 20 18:37:54 2008

Steffan o'r Fforest
Rodd Olifar yn gret, yr actio a'r canu yn wych! Da iawn Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi! Fy hoff gymeriad i oedd Nancy! Sgwn i pam?!?!
Mon Aug 14 12:45:05 2006


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý