±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ffilm Technoleg mewn ffilmiau heddiw: Da neu Ddrwg?
Mae gan bawb ei hoff ffilm boed honno'n ffilm ramantus neu'n ffilm llawn antur.
Mae chwaeth pob person yn wahanol. Ffilmiau o'r 60au sydd at ddant rhai, tra bod eraill yn mwynhau ffilmiau mwy diweddar. Ond pa rai sydd orau - y " clasuron" neu'r ffilmiau diweddaraf?

Wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen mae'r gwelliannau technolegol a'r cyfrifiaduron diweddaraf wedi gweddnewid y diwydiant ffilmiau. Y cwestiwn rwy'n ei ofyn yw, ydy technoleg yn chwarae rhan rhy bwysig ym myd y ffilmiau heddiw?

Nid oes angen gwell enghraifft na " Star Wars" i ddangos sut mae technoleg wedi helpu i wella ffilmiau. Mae pawb yn cofio'r tair ffilm fwyaf diweddar yn y gyfres am yr antur a'r gwaith cyfrifiadurol ynddynt. Campweithiau technolegol oedd yn dod â bydysawd arall yn fyw. Faint tybed sy'n eu cofio am y storïau yr oeddynt yn eu hadrodd?

Y gwir amdani yw bod angen stori dda i wneud "clasur" a bod y ffilmiau sy'n defnyddio'r cyfrifiadur i raddau anhygoel yn cysgodi'r stori. Creu'r effaith "WOW" sydd flaenaf ar feddyliau gwneuthurwyr ffilm erbyn heddiw.

Rhaid cydnabod mai diwedd y gân yw'r geiniog ac mae'r math o ffilmiau sy'n cael eu creu yn dibynnu'n llwyr ar y galw yn y swyddfa docynnau. Mae'r swm o arian y gellir ei ennill o greu ffilm anhygoel a chofiadwy yn anferth.

Felly, y tro nesaf y byddwch yn gwylio ffilm, edrychwch heibio i'r gwaith cyfrifiadurol a meddyliwch a oes stori?

Gan: Marc Davies

Beth yw eich barn chi am dechnoleg mewn ffilmiau? Gallwch ymateb i'r erthygl hon a mynegi eich barn isod.


Cyfrannwch

Ceri o Lanymddyfri
Mae technoleg mewn ffilmiau yn dda iawn. Mae 'clasuron' y 60au yn shed. Mae hen ffilmiau yn hollol anrealistig yn wahanol i heddiw. Yn fy marn i mae rhai storion gwell ar gael yn ein hoes ni na'r hen glasuron. Mewn blynyddoedd fe fydd ffilmiau diweddar yn glasuron.

Rachel Lewis o Ffairfach
Mae stori i bob ffilm! Nid ydwyf wedi gweld Star Wars, ond rwy'n hoffi Harry Potter a ma lot o special FX yn hwnna A STORI!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý