±«Óãtv

Heather Jones

Heather Jones

Cyn aelod o'r grŵp Bara Menyn a chantores unigol sy'n dal i berfformio. Derbyniodd wobr Cyfraniad Oes ±«Óãtv Radio Cymru.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ganwyd Heather Jones yng Nghaerdydd ym 1950. Tra yn yr ysgol, roedd hi'n aelod o'r grŵp canu ysgafn Y Meillion. Rhyddhawyd ei record gyntaf, yr EP Caneuon Heather Jones, ym 1968 ar Welsh Teldisc. Blwyddyn yn ddiweddarach rhyddhawyd sengl Ddoi Di i Cambrian, a ffurfiodd Y Bara Menyn gyda'i darpar-ŵr Geraint Jarman a Meic Stevens. Rhyddhawyd dwy EP ar Dryw.

Ar ôl i'r grŵp chwalu rhyddhawyd EP Heather ar label Newyddion Da. Ym 1971 ac 1972 recordiwyd dwy EP ar Sain, gyda'r grŵp roc James Hogg: Colli Iaith a Cwm Hiraeth. Ym 1972 enillodd Cân i Gymru gyda Pan Ddaw'r Dydd, cân a ysgrifennwyd gan Geraint.

Discograffi

  • Mae'r Olwyn Yn Troi (Sain) 1974
  • Jiawl (Sain) 1976
  • Petalau Yn Y Gwynt (Sain) 1990
  • Hwyrnos (Sain) 2000
  • Goreuon Heather Jones (Sain) 2004
  • Enaid (Sain) 2006

Blwyddyn yn ddiweddarach, ddaeth y cyfle gan Sain i recordio ei halbwm cyntaf, Mae'r Olwyn Yn Troi. Recordiwyd yr albwm dros gyfnod o dri mis yn Stiwdio Rockfield gyda James Hogg. Hon, heb os nac oni bai, yw albwm gorau Heather. Mae'r albwm ar gael yn ei chyfanrwydd ar Goreuon Heather Jones.

Ym 1974 chwaraeodd rhan Nia yn yr opera roc Nia Ben Aur a llwyfannwyd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin. Yn yr un flwyddyn recordiodd Young Folk In Worship ar label y ±«Óãtv, sef albwm o ganeuon Cristnogol.

Yn sgil llwyddiant Mae'r Olwyn Yn Troi, ffurfiwyd y grŵp Neli gyda Catrin Edwards, Helen Bennett a Bethan Miles ond ni recordiwyd unrhyw ganeuon.

Ym 1976 rhyddhawyd Jiawl - casgliad o ganeuon cryf. Mae'n cynnwys teyrnged Heather i Janis Joplin, sef Cân i Janis. Wedyn ymunodd Heather â grŵp jazz arbrofol Red Brass. Cantores arall y grŵp yr un pryd oedd neb llai nag Annie Lennox!

Ym 1982 ffurfiwyd y grŵp canu gwerin Hin Deg gyda Mike Lease (gynt o'r Hwntws) a Jane Ridout, ond roedd rhaid aros tan 1991 cyn i'r grŵp rhyddhau Lisa Lân, ei albwm cyntaf.

Roedd Petalau Yn Y Gwynt (Sain, 1990) yn albwm aeddfed iawn, tipyn mwy canol y ffordd, ond roedd 'na uchafbwyntiau. Mae Hiraeth Bregus yn fersiwn gwych o gân Meic Stevens, ac mae'r gân serch Rwy'n Cofio Pryd yn hyfryd.

Ym 1991, newidiodd cwrs yn gerddorol, ac ymunodd gyda'r grŵp rêf Tŷ Gwydr er mwyn recordio'r albwm Effeithiol. Mae'r casét yn cynnwys fersiwn dawns o Colli Iaith.

Recordiwyd Hwyrnos yn 2000 yn Stiwdio Albany, Caerdydd gyda rhai o gerddorion gwerin gorau Cymru: Dave Burns, Danny Kilbride a Stephen Rees ymysg eraill.

Mae Enaid (2006) yn cynnwys Beth Sydd I Mi a sgrifennwyd gan Geraint Jarman. Y gân hon enillodd gystadleuaeth y gân bop yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd Caerfyrddin i Heather ym 1967. Mae'r albwm hefyd yn cynnwys teyrnged dyner i'r diweddar Tich Gwilym, sef Anthem Tich.

Yn ddiweddar mae Heather wedi bod yn recordio caneuon gyda'r grŵp electro-pop Clinigol.

Gari Melville

Newyddion

Clinigol - Melys

Albym gyntaf 'Clinigol'

Mae'r grwp electro-pop 'Clinigol' newydd ryddhau eu albwm gyntaf, 'Melys'.

Gwobrau RAP 2009 ±«Óãtv Radio Cymru

30 Mawrth 2009

Gwobrau Roc a Phop yn ôl - pwy sydd ar y rhestr fer eleni?

Tregaron - Y Lle i Fod!

18 Ionawr 2006

Sesiynau

Heather Jones

1 Ebrill 2009

Fideo o Heather Jones, enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau RAP 2009, yn recordio sesiwn acwstig.

Heather Jones

Chwefror 20, 2006

Heather Jones

Chwefror 20, 2006

Adolygiadau

Tyrfe Tawe 2007

22 Hydref 2007

Adolygiad gan Alun Rhys Chivers o ŵyl Tyrfe Tawe 2007.

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

±«Óãtv Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.