±«Óãtv

TÅ· Gwydr

TÅ· Gwydr

TÅ· Gwydr oedd grwp dawns arloesol y 90au cynnar, ddaeth ag ysbryd 'rave' o'r clybiau Prydeinig i'r sin Gymraeg.

Gareth Potter a Mark Lugg oedd cnewyllyn y grwp, y ddau wedi bod yn ffrindiau ers eu plentyndod a'u blynyddoedd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Wedi bod mewn nifer o grwpiau ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Clustiau Cwn (pan roedd Gareth ond yn ei arddegau), Traddodiad Ofnus a Pop Negatif Wastad, ffurfiodd y ddau TÅ· Gwydr adeg Eisteddfod Genedlaethol 1990 yng Nghwm Rhymni, sef milltir sgwar y ddau ohonynt.

Gyda rhyddhau'r sengl 12" Yr Unig Ateb ar label Ankst y flwyddyn honno, sefydlodd y grwp steil weledol gref dan ddylanwad yr arlunydd Lugg a gan ddefnyddio ymadrodd y zeitgeist, "REU!" (ar fenthyg gan eu ffrindiau o'r Gogledd) llusgwyd cerddoriaeth ddawns Gymraeg o'r sîn glybio danddaearol i gynulleidfaoedd y Cymry Cymraeg.

Byr-hoedlog oedd y grwp, ond gydag un caset, Effeithiol a chwpl o senglau 12" eraill yn ystod y cyfnod 1990-1992, llwyddodd Lugg a Potter danio sîn sydd yn dal i fodoli hyd heddiw.

Er bod y grwp wedi dod i ben yn swyddogol ym 1994 mae Potter yn DJo o hyd, a Lugg yn parhau i fod y person mwya cŵl a welodd yr SRG erioed.

Ian Cottrell

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

±«Óãtv Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.