±«Óãtv

Cowbois Rhos Botwnnog

Cowbois Rhos Botwnnog

Tri brawd o bentref Rhos Botwnnog , Llŷn sy'n aelodau o'r band llwyddiannus, Cowbois Rhos Botwnnog. Yn arbrofi gyda ffurfiau canu gwlad, gwerin a roc, ffurfiwyd y band yn 2006 gan ennill gryn sylw o'r sîn roc Gymraeg gydag ymddangosiadau ar nifer o raglenni cerddoriaeth Gymraeg.

Rhyddhawyd yr albwm gyntaf ganddynt, 'Dawns Y Trychfilod' ar label Sbrigyn Ymborth yn 2007. Roeddent eisioes wedi denu nifer o ffans a chyrhaeddodd yr albwm rif 1 ar siart C2. Enillodd y band y Wobr yng Ngwobrau RAP 2007 am y Band a ddaeth i amlygrwydd yn ogystal.

Yn 2008, penderfynodd y band newid ei sain gan ffocysu'n fwy ar elfen canu gwlad. Gan gydweithio â Gwyneth Glyn a'r cerddor Euron "Jos" Jones, rhyddhawyd y sengl, 'Paid a Deud' hefyd ar label Sbrigyn, gyda'r trac teitl yn defnyddio cân werin Gymreig draddodiadol fel ysbrydoliaeth.

Yn ystod haf 2009, ymunodd Llyr Pari o Jen Jeniro â'r band fel giatrydd byw ychwanegol gan berfformio gyda'r Cowbois mewn cyngerddau mawr fel Gŵyl Wakestock ac ym Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn 2010, cyfansoddi oedd y brif ffocws. Ym mis Rhagfyr 2010 rhyddhaodd y Cowbois yr albwm, 'Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn.'Nerth y band yw'r unigolrwydd yn ei sain -does neb yn swnio fel y Cowbois!

Newyddion

Cowbois a Gwyneth

2 Awst 2007

Cowbois a Gwyneth

2 Awst 2007

Sesiwn Fawr Dolgellau '07

Ebrill 15 2006

Sesiynau

Coeden Nadolig C2

Caneuon Nadolig Sesiwn C2

Caneuon Nadoligaidd â recordiwyd yn arbennig i C2.

Cowbois Rhos Botwnnog

05 Tachwedd 2009

Sesiwn newydd gan Cowbois Rhos Botwnnog

Cowbois Rhos Botwnnog

Tachwedd 8, 2006

Adolygiadau

Sion Llwyd yn adolygu gig 'Stafell fyw

31 Ionawr 2008

Y cerddor Sion Llwyd yn adolygu y cyntaf mewn cyfres o gigs gan Gymdeithas yr Iaith a Siarc Marw.

Cowbois Rhos Botwnnog

Mai 29, 2007

Eraill

Sesiwn Unnos 2011 - Cowbois Rhos Botwnnog a Karen Owen

Lluniau o'r Sesiwn Unnos gydag Cowbois Rhos Botwnnog a Karen Owen.


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

±«Óãtv Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.