±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Joanna Davies
Awdur y nofel Ffreshars
Enw:
Joanna Davies

  • Beth yw eich gwaith?

  • Uwch Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau i Gyngor Celfyddydau Cymru.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Bum yn Gynhyrchydd Teledu am 10 mlynedd.

  • 0 ble'r ydych chi'n dod?

  • O Gorslas, Cwm Gwendraeth.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Yn y Rhath, Caerdydd.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • . Do -roeddwn i'n real swot!

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?

  • Angen cofnodi profiadau Coleg cyn i mi fynd yn rhy hen i wneud! Ac i barhau i fod yn greadigol gan mod i wedi gadael diwydiant creadigol sef Teledu, y llynedd.

  • Dwedwch ychydig amdano.

  • Mis Medi 1991 ac mae tri ffrind o'r un ysgol yng Nghwm Gwendraeth yn dechrau eu blwyddyn gyntaf yng ngholeg prifysgol Aberystwyth: Lois, y ddarpar-gyfreithwraig naïf sy'n ysu am golli ei moryndod; ei ffrind gorau, Cerys, sex-symbol y neuadd Gymraeg, a Hywel, yr Efeng-yl hoffus sy'n gorfod dewis rhwng ei deulu ceidwadol a dyheadau'i gorff a'i galon. Wrth i'r glasfyfyrwyr gychwyn ar anturiaethau gwyllt, dyw hi'n fawr o dro cyn i'w delfrydau am fywyd coleg gael eu chwalu ...

    Mae'n stori oesol am ddarganfod poenau a phleserau rhyw, alcohol a chyffuriau a dathlu ieuenctid i'r eithaf er gwaetha'r canlyniadau. Ond mae hefyd yn nofel am herio confensiynau, wynebu cyfrifoldeb a thalu'r pris.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Bywgraffiadau a chyfweliadau gydag actorion fel Ioan Gruffudd, Matthew Rhys, Michael Sheen, Rhys Ifans, Jonathan Pryce a llawer mwy. Enw'r llyfr yw Taff Pac a cyhoeddwyd ef gan y Lolfa yn 2000.

    Dwi wedi ysgrifennu straeon byrion yn y Saesneg a gyhoeddwyd gan Virgin Books. Dwi hefyd wedi sgwennu sawl drama ddogfen i HTV ac S4C.

    Roeddwn ar dîm creadigol creu'r gyfres deledu arobryn, Nuts and Bolts a gweithiais fel is-Gynhyrchydd sgriptiau ar Pobol y Cwm.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Anne of Green Gables gan L.M. Montgomery.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Byddaf o dro i dro.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Truman Capote a Daphne Du Maurier.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • In Cold Blood gan Truman Capote.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • T.H. Parry Williams.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Dychwelyd gan T.H. Parry Williams.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
    A Duw ar drai ar orwel pell.
    (Rhyfel gan Hedd Wyn).

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Hoff ffilm: Kind Hearts and Coronets (1949) gan Stiwdio Film Ealing.
    Hoff gyfres deledu: Frasier.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Hoff: Scarlett yn Gone with the Wind gan Margaret Mitchell.
    Cas gymeriad: Alec d'Urberville yn Tess of the d'Ubervilles gan Thomas Hardy.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Mae ysgol brofiad yn ysgol ddrud.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Cysgu.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Arlunio.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Brwdfrydig,
    Allblyg,
    Ffraeth.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Mod i'n ddiamynedd ac yn gorwario!

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Vivien Leigh, yr actores. Roedd hi'n dioddef yn enbyd o salwch meddyliol ond llwyddodd i gael gyrfa lewyrchus fel actores, ennill dau Oscar a gadael perfformiadau anfarwol ar ei hôl fel Scarlett O'Hara a Blanche Du Bois.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Hoffwn petawn ni wedi bod yn yr Oscars yn 1940 i weld yr holl selebs o'r cyfnod! Neu yn Woodstock i weld y bandiau i gyd!

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Hoffwn gyfarfod â Noel Coward a chael dosbarth meistr ganddo i sgrifennu dramâu. A dwi'n meddwl y byddai'n hwyl mynd allan gydag e am gocteil!

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Mynd tua thre ar ôl diwrnod o waith ar nos Wener.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Stecen ffilet, tatws wedi ffrio gyda winwns, madarch wedi eu ffrio. A cheescake mefus i bwdin!

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Chwarae piano, ysgrifennu, darllen, gwylio ffilmiau, mynychu gigs.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Turquoise.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Glas.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Bod y Llywodraeth yn stopio mynd â chymaint o drethi o fy mhecyn pau!

    Joanna Davies
  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Oes, nofel arall chwerw-ramantaidd, Mr Perffaith.

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Nawr fod Mari wedi bachu dyn ei breuddwydion, 'roedd hi'n drueni mawr bod rhywbeth mawr yn bod arno fe . . .

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o 'Ffreshars'

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý