±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffreshars
Rhyw, rhegi, cwrw a chosb!
  • Adolygiad Glyn Evans o Ffreshars gan Joanna Davies. Nofel y Mis, Medi 2008. Gwasg Gomer. £7.99.



  • Yn Saesneg y dydd o'r blaen y gwelais gyfeirio at BAPs.

    Oedolion ydi BAPs - Born Again Prims - a brofodd flynyddoedd yn ôl hwyl ac oferedd ieuenctid ond sy'n awr a'u llach yn drwm ar benrhyddid hedonistaidd ieuenctid heddiw.

    A phe byddwn innau'n gwbl onest â mi fy hun, fel dipyn o BAP y gafaelais yn y nofel hon a fu'n cael ei heipio'n ddidrugaredd am ei hiaith gwrs a'i darlun amrwd o fyfyrwyr meddw yn bwrw'u rhywioldeb yn ystod blwyddyn gyntaf o brifysgol yn Aberystwyth.

    Clawr y llyfr Ar yr wyneb gellid dadlau nad oedd yn nofel a fwriadwyd i mi beth bynnag ond gan i minnau hefyd afradu blwyddyn o goleg yn y Chwedegau yr oeddwn yn awyddus i gael gweld faint gwaeth neu faint gwell ydi myfyrwyr heddiw a faint mwy o hwyl maen nhw'n ei gael.
    Os hwyl hefyd.

    Myfyrwyr newydd
    Prifysgol Aberystwyth yw'r coleg a 1991 yw'r flwyddyn mae'r nofel yn dilyn ynddi hynt a helynt dwy fyfyrwraig ac un myfyriwr blwyddyn gyntaf - 'ffreshars' sy'n cael eu traed yn rhydd o oruchwyliaeth teuluol am y tro cyntaf.

  • Mae Lois - gymharol ddiniwed sy'n astudio'r gyfraith ac yn awyddus i golli ei gwyryfdod - yn syrthio mewn cariad â Daniel sawl blwyddyn yn hÅ·n na hi a chyda 'gorffennol'.

  • Mae Cerys yn hynod brofiadol yn rhywiol ac eisoes wedi "cael" cryn ugain o ddynion cyn cyrraedd coleg lle mae hi'n syrthio mewn cariad a chael affêr â darlithydd priod yn yr Adran Hanes.

  • Mab annwyl ei fam - a'i dad - ac efengylwr argyhoeddedig ydi Hywel sy'n syrthio mewn cariad â Meleri wedi iddo ei darganfod yn anymwybodol feddw ar ei ffordd gartref i'r hostel un noson.

    Yn gweu drwy'u bywydau mae carnifal o o gymeriadau brith eraill; pob un yn rhegi a'r rhan fwyaf ar ddrygs.
    Croeso i Aber - y coleg ger y llif parhaus o gwrw a rhyw.

    Tynnu sylw
    Beth bynnag ein barn am y nofel byddai'n anodd gweld bai ar yr ymgyrch gyhoeddusrwydd fu ynglŷn â hi. Eitem edmygus ar Wedi7, talp o erthygl gan Bethan Mair yn y Western Mail - er yn yr achos hwnnw rwy'n credu y dylid fod wedi dweud, er tegwch â'r darllenwyr, fod Bethan Mair, yn olygydd gyda'r wasg sy'n cyhoeddi'r nofel - pe na bai ond inni fedru edmygu fwyfwy ei gwrthrychedd.

    Canmoled hefyd amseru'r cyhoeddi; nid ar ddamwain y cyhoeddwyd hi yr union adeg hon o'r flwyddyn a'r colegau ar fin derbyn myfyrwyr newydd.

    Digon o regi
    Ta beth, yn unol a'r addewidion mae'r nofel yn cychwyn ar ras amrwd gyda digon o regi i beri i ferfa nafi wichian; meddwi afreolus, drygiau, dwylo i fyny sgertiau, "bronnau bach pyrci"ac ysbeidiau o ryw digon anerotig wrth i'r awdur balu mlaen i fod yn fentrus ac yn feiddgar.

    A rhoi'r argraff mai ei chenhedlaeth hi o fyfyrwyr yw'r gyntaf erioed i ddyfeisio'r fath afradlonedd. Ond dyna fo, mae pob cenhedlaeth ifanc yn tueddu i feddwl hynny!

    Mae peryg, wrth gwrs, y bydd yr awdur yn colli rhai darllenwyr a fydd yn ystyried y driniaeth yn anaeddfed wrth i'r bwriad i daflu oddi ar eu hechel rieni y mae eu plant ar fin cychwyn mewn coleg fynd yn drech na synnwyr llenyddol.

    Hen ffasiwn
    Ond er ei beiddgarwch a'i blaengarwch ymddangosiadol, nofel digon hen ffasiwn yw hon yn ei hanfod. Moeswers sy'n dangos fod cosb, neu bris i'w dalu, yn dilyn afradlondeb - ond annheg â'r awdur fyddai manylu rhag difetha stori sy'n cymryd tro digon syber erbyn yr ail hanner.

    Darlun cywir?
    Yn naturiol mae rhywun yn cael ei demtio i holi ai peth fel hyn yw bywyd myfyrwyr yn go iawn. "Na," meddai Rhiannon Heledd Williams mewn adolygiad yn Y Cymro a hithau yn fyfyrwraig ei hun yn Aber dair blynedd yn ôl.

    "Teimlwn fy hun yn cwestiynu'n aml pa mor gredadwy oedd y plot mewn gwirionedd, a pha mor realistig oedd y darlun hwn o fywyd yn y brifysgol," meddai gan ychwanegu bod ganddi hi "argraffiadau gwahanol iawn o goleg o'i' gymharu a'r hyn oedd yn y nofel."

    Yn wir mae'n mynd cyn belled â dweud: mai'r unig beth oedd yn taro tant gyda hi "oedd enwau'r siopau a'r tafarndai yn Aberystwyth."

    Ac erbyn gweld fe ddywedodd yr awdur ei hun yn yr erthygl yna yn y Western Mail iddi fod yn gorliwio rhywfaint:
    "Yn amlwg, mae'r stori'n fwy dramatig ac eithafol na bywyd go iawn," meddai.

    A does dim o'i le yn hynny gan nad chwilio am astudiaeth ddogfennol gywir y mae rhywun wrth droi at lyfr fel hwn.

    Ond gallaf ddychmygu y bydd yna ymhlith darllenwyr gryn dybio nad oes mwg heb dân er mor annhebygol yw rhai o ddigwyddiadau Ffreshars!

    A diau, y bydd rhai yn pryderu mwy beth sy'n dod o'n colegau yn hytrach na beth sy'n mynd iddyn nhw!

    Cadw diddordeb
    Un peth sy'n sicr, mae Joanna Davies yn cadw diddordeb rhywun yn ei chymeriadau a'i stori ac y mae rhywun yn teimlo'i hun yn cael ei dynnu i mewn i'r hanes ac i'r byd brith yma sy'n cael ei gyfleu drwy lygaid y tri newydd-ddyfodiad.

    Canolbwyntio ar ddweud y stori y mae hi gan osgoi unrhyw demtasiwn i sgwennu'n ddisgrifiadol lenyddol - er bod tonnau yn "chwipio" traeth Aberystwyth ddwywaith dair.

    Yn y golygfeydd caru hyd yn oed does dim ymdrech i sgrifennu nac yn rhamantus nac yn erotig er bod digon o gyfle i'r ail yn hytrach na'r arddull ffwrdd a hi a ddewiswyd.

    Ein hawr ninnau
    Go brin mai hon fydd nofel olaf Joanna Davies, a da hynny gan fod ganddi ddawn ddiamheuol i gydio mewn darllenydd a'i hudo i leoedd rhyfedd ac annisgwyl iawn.
    Da iawn hynny.

    A sut oedd hyn oll yn cymharu a blwyddyn golegol y BAP hwn?
    Digon yw dweud ei fod yn wirionedd oesol fod pob cenhedlaeth o'r farn ei bod yn waeth ac yn fwy mentrus nag unrhyw un a fu o'i blaen.
    A do, fe gawsom ninnau'n dydd. Yn wir rwy'n rhyw amau mai ein cenhedlaeth ni a ddyfeisiodd yr holl oferedd yma.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Joanna Davies, awdur 'Ffreshars'.


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý