±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Harri Parri - dianc i straeon
Straeon yn ddihangfa a geiriau'n wyrth

Disgrifiwyd ysgrifennu fel "cilfach i ddianc iddi" gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru.

Ac mae Harri Parri hefyd o'r farn bod geiriau a'r ddawn i'w rhoi wrth ei gilydd yn bethau i ddiolch amdanynt.

Yr oedd y gweinidog ac awdur y cyfrolau niferus o straeon digri a'u cymeriadau lliwgar yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y thema "Diolchgarwch" ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fore Sul, 20 Hydref 2007.


"I mi mae geiria yn rhoddion," meddai wrth gael ei holi gan John Roberts, cyflwynydd y rhaglen.

"Mae gan awdur Saesneg ysgrif, The Divine Alphabet, ac rydw i'n hoff iawn o'r teitl yna; fod Yr Wyddor yn rhywbeth dwyfol, yn rhodd oddi uchod ichi greu efo hi ac mae rhoi geiriau wrth ei gilydd yn medru bod yn wyrth dwi'n meddwl," ychwanegodd.

"A beth sy'n rhyfedd ydi; chewch chi byth well dramodydd na Shakespeare ond mae'r posibilrwydd yna, chewch chi ddim gwell nofelydd na Daniel Owen ond mae'r posibiliadau yna tra bo'r Wyddor o fewn eich cyrraedd chi. A dwi'n diolch am hynny," meddai.

Medru dianc
Wrth sôn am sgrifennu fel dihangfa rhag y byd go iawn dywedodd:

"Pan oedd y gyrru'n galed yr oedd sgrifennu i mi yn ddihangfa. Roeddech chi'n creu byd yr oeddech chi'n medru dianc iddo fo.

"Byd afreal oedd o - nid oes yno neb yn wylo nid oes yno neb yn brudd - ond i mi roedd o'n ddihangfa o bethau trist oedd yn digwydd o ddydd i ddydd, gwaeledd pobl a dioddefaint pobl.

"Yr oeddech chi'n mynd i rhyw fyd am ychydig o amser oeddech chi'n i greu i chi'ch hun ac yr oedd o'n fyd diddan yn amlach na pheidio," meddai.

Harri Parri - dianc i'w straeon ei hun!

Dywedodd fod y sgrifennu yn gyfle hefyd i ddweud rhai pethau "na fyddech chi'n i dweud nhw yn gyhoeddus".

"Eu deud nhw ar ffurf stori ac mae hynny'n wahanol [achos] mae pobl yn meddwl wedyn, 'Wel nid y fi ydi hwn ond rhywun arall'."

Ychwanegodd mai "pobl" yw ei ddiddordeb mawr yn ei sgrifennu. "Bydded nhw'n bobl wirioneddol wedi bod yn byw ar ein daear ni ac yn rhan o hanes neu'n bobol ddychmygol."

Y llyfr nesaf
Bydd ei lyfr nesaf yn gyfrol go wahanol i'r straeon digrif a doniol am gymeriadau lliwgar Porth yr Aur a helyntion Hufen a Moch Bach.

Er mai cyfrol hunangofiannol fydd hi dywed na fydd yn hunangofiant.

"Rydw i wedi cael cynnig digon teg i sgwennu rhyw fath o hunangofiant ond dydw i erioed wedi bod ag awydd gwneud hynny oherwydd, yn gyntaf: mae yna gymaint o gamgymeriadau - a dydw i ddim yn dweud hyn yn ysgafn ond mae yna gymaint o gamgymeriadau wnes i mewn bywyd o dro i dro, pethau chwithig nad ydw i'n falch ohonyn nhw.

"Ac i sgwennu eich hunangofiant mi fyddai'n rhaid ichi ddweud y gwir i gyd . . .

"Ac mae'n ffasiwn [heddiw] i ladd ar bobl mewn print, wel dydw i ddim awydd gwneud hynny ychwaith," meddai.

"Ond mae yna bobl sydd wedi dylanwadu ar fy mywyd i a dwi wedi bod awydd ers blynyddoedd gwneud portread o'r bobl hynny a dyna fydd hwn pan ddaw o," eglurodd.

Dathlu ddoe
Unwaith yn rhagor, bydd hwn eto yn gyfle i ddianc rhag realaeth ond ar ben hynny "yn gyfle i ddathlu ddoe achos mae pethau glywais i ddoe, ddywedwyd ddoe, wedi bod yn ganllawiau ac yn rhan o mywyd," meddai..

Cytunodd mai 'dathliad' o fath yw ei holl sgrifennu:
"Dathliad o'r wefr o fyw, y fraint o fyw a bywyd yn gyffredinol.

"Yn ddiweddar mi fûm i yn y seidin am bron i hanner blwyddyn a sylweddoli bod pethau pwysicaf bywyd yn bethau syml iawn [ac mae ] rhywun yn pryderu ac yn poeni am bethau nad ydyn nhw yn wirioneddol bwysig yn y diwedd ac yn yr ystyr yna mae dathlu iechyd yn rhywbeth mawr yn tydi ac mae Gŵyl Ddiolchgarwch yn gyfle i ddathlu y Crëwr a'r greadigaeth a dwi'n meddwl fod sgrifennu a chreu efo geiriau yn fath o ddathlu."

Poeni a phryderu
Cyfaddefodd ei fod fel person yn "boenwr a phryderwr" sydd angen dihangfa ar adegau.

"Mae'r rhan fwyaf yn meddwl os ydych chi'n sgrifennu'n ddigri neu eich bod yn gomedïwr eich bod chi'n chwerthin am ben pob dim.

"Ond y tu mewn, yn aml iawn, crio ydych chi," meddai.

"Mae'r dwyster a'r digrifwch mor agos at ei gilydd a dydych chi byth yn siŵr iawn p'run di p'run a phwy di pwy ."

Dywedodd y byddai bywyd wedi bod "yn fwy o faich" iddo heb y sgrifennu:

"Mi wnes i fwynhau fy ngwaith a mwynhau'r cyfnod ac yn y blaen ac roedd sgrifennu weithiau yn gilfach i ddianc iddi ar dro.

"Mae gweld geiriau yn sownd yn ei gilydd ac yn gyferbyn a'i gilydd ac yn gwrthgyferbynnu a'i gilydd yn rhan o'r wyrth ac mae'n wyrth fawr ac mae eisiau diolch amdani," meddai.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Athrylith Harri Parri - profiad John Ogwen

  • Holi Harri Parri

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý