±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Harri Parri - meistr ar ei grefft
John Ogwen yn dweud beth sy'n gwneud straeon Harri Parri mor arbennig
Wedi saith llyfr a 42 o straeon mae Harri Parri yn bygwth cau'r drws ar Borth yr Aur - y Gaernarfon ddychmygol a greodd ar gyfer cymeriadau fel Shamus Mulligan, Oli Paent, Cecil Siswrn a'r gweinidog mawr ei faich, Eilir Thomas. Clawr y llyfr

Daeth y cymeriadau hyn a grewyd gan y gweinidog a'r llenor o Ben Llŷn yn ffefrynnau nid yn unig mewn print ond hefyd ar lafar diolch i ddarlleniadau dyddiol John Ogwen ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd bellach gan gychwyn yn Eisteddfod Meirion 1997.

Harri Parri ei hun fyddai'r cyntaf i dalu teyrnged i John Ogwen am yr hyn a wnaeth yr actor gyda'i straeon - ac ar yr un pryd John Ogwen yw'r cyntaf i gydnabod hefyd ei ddyled yntau i Harri Parri.

Ar achlysur cyhoeddi Er Budd Babis Ballybunion, y seithfed gyfrol yn y gyfres bresennol - mae Harri Parri wedi cyhoeddi dros 15 o lyfrau i gyd - pwy well i ofyn iddo na John Ogwen i sôn am y berthynas hynod o lwyddiannus rhwng yr actor a'r llenor diwyd a ffraeth o weinidog . . .

Meddai John Ogwen:
John Ogwen yn darllen Wedi darllen 42 o straeon Harri Parri yn gyhoeddus medraf ddweud i mi fwynhau pob un ohonynt.

Daeth y penllanw cyflwyno eleni ym Mhabell Lên Eisteddfod yr Wyddgrug pan ddaeth oddeutu pedair mil o bobl i wrando.

Erbyn hyn mae'r gynulleidfa yn adnabod y cymeriadau cystal â mi a does ond rhaid dweud enw Shamus, Cecil, Howarth, John James o James, James a'i Fab, Cyfreithwyr - neu yn wir unrhyw un o'r cymeriadau lliwgar sy'n britho'r storïau - a chlywaf ymateb y gwrandawyr yn syth.

Adnabod y cymeriadau. A dyna i mi gyfrinach yr awdur. Mae o yn adnabod pobl.
Yn adnabod eu cryfderau ac, yn arbennig, eu gwendidau.

A chlust arbennig i roi geiriau ei gymeriadau ar bapur. Pan fydda i yn meddwl am leisiau gwahanol i'r gwahanol gymeriadau y ddeialog sy'n rhoi yr allwedd imi bob tro.

Mae'r ffordd y mae Harri yn ysgrifennu yn awgrymu sut lais sydd gan y cymeriad a thrwy hynny y daw y gynulleidfa i rannu yr adnabyddiaeth.

Y maent nid yn unig yn adnabod cymeriadau'r stori ond cymeriadau tebyg o'u bywyd nhw'i hunain.

Mae i bob ardal rywun tebyg i Shamus a Cecil. A rhai tebyg iawn i Howarth a John James!

Harri Parri yn arwyddo copi o'i lyfr

A'r gwendidau yna.
Pluen, nid gordd, sydd gan Harri. Mae yn dychanu wrth reswm ond mae yna gynhesrwydd yn y portreadau.

Mae'r ffaith fod ei brif gymeriad, Eilir Thomas, y gweinidog, yn ei ddiniweidrwydd yn amlach na pheidio, yn fwy cyfrifol na neb am ei helbulon, yn rhoi rhwydd hynt i Harri wedyn fynd i'r afael â phawb arall.

Mae gan Harri y ddawn hynod o adeiladu at uchafbwynt digwyddiad. Anrheg arbennig i actor sydd yn perfformio'r gwaith.

I nodi dim ond un enghraifft - tudalen 60 o'r gyfrol newydd Er Budd Babis Ballybunion a stori Y Festri Blastig .
Un o'm hoff gymeriadau i, yr hen flaenor byddar Ifan Jones, yn trafod anrhegu Miss Jones, TÅ· Capal, am flynyddoedd o wasanaeth i'r 'organ'! Mae wyth punch-line anfarwol o fewn un dudalen. A'r adeiladwaith at bob un yn berffaith.
Profodd ymateb cynulleidfa'r Babell Lên hynny!

Mi fyddwn yn derbyn y storïau drwy'r post o leiaf chwe mis cyn dyddiad eu darllen ac ar waelod y nodyn byddai'r frawddeg; "Os ti'm yn licio un o'r rhain gei di neud un o'r hen rai".

Wnes i erioed. Wrth lansio'r gyfrol uchod - y seithfed - a'r olaf yn ôl yr awdur - fe ddywedodd Harri fod creu yn waith caled. Nid ysgrifennu ond 'creu'. Ar ôl creu 42 o straeon ardderchog am Porth yr Aur mae yn haeddu seibiant.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o Miss Pringle a'r Tatŵ

  • Harri Parri - sgrifennu yn ddihangfa, geiriau yn wyrth

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý