±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Fflur Adnabod Awdur:

Fflur Dafydd

Golygydd newydd Tu Chwith

Dydd Iau, Ionawr 10, 2002
Enw:
Fflur Dafydd.

Beth yw eich gwaith?
Golygydd Tu Chwith.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Myfyrwraig llawn amser. Ysgrifennu doethuriaeth ar hunaniaeth ôl-drefedigaethol ym marddoniaeth R.S. Thomas.

• O ble¹’r ydych chi¹n dod?
Llandysul.

• Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Porthaethwy.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Mas draw.

Pam golygu cylchgrawn?
Cyfle i ddatblygu sgiliau creadigol newydd, a chyfle i osod stamp personol ar gyhoeddiad safonol.

• Ydych chi wedi cyhoeddi llyfr?

Dim ond cyfrol Medal Lenyddiaeth yr Urdd, Y Gwir am Gelwydd ym 1999.

• Pwy, yn fwy na neb, hoffech chi ei holi ar gyfer eich cylchgrawn?
(Heb ateb)

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

Tomi a’r Planhigion.

A fyddwch yn edrych arno’n awr?
O byddaf. Ffordd o gadw perspectif!

• Pwy yw eich hoff awdur?
Ar hyn o bryd, Margaret Atwood, ond mae’n amrywio o fis i fis. Ian McEwan hefyd yn ffefryn. A Milan Kundera.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
The Outsider gan Albert Camus. Y llyfr gorau erioed. Minimalistaidd, oeraidd, yn llawn gwirionedd ac yn brwydro yn erbyn cam-ddehongliadau cymdeithas. Blasus iawn.

Pwy yw eich hoff fardd?
R.S. Thomas, wrth gwrs.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Ann Griffiths, gan R.S. Thomas.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Fall, gall themselves, and gash gold-vermilion, allan o The Windhover gan Gerard Manley Hopkins.
Mae sain a delwedd y geiriau yn hyfryd iawn iawn.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Shallow Grave a I’m Alan Partridge.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad yw Meursault o The Outsider.
Cas gymeriad yw Monica, Saunders Lewis.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Gan y gwirion ceir y gwir.

• Pa un yw eich hoff air?
Bloneg.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae offeryn pres.

Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Byr.
Blond.
Boliog.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dim pen ôl.
Dim aeliau go iawn.
Methu rheoli arian.
Atynu pobl od.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Simone Weil.
Dewrder aruthrol.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Fe fuasai’n braf cael bod yn aelod blaenllaw o’r Gymdeithas yn ystod y 70au - ymgyrch Blaenplwyf ag ati. Cael teimlo bod rhywbeth yn bosib ei gyflawni…a chael bod yn rhan o ymgyrchu tanbaid…

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Dwi’n difaru na chefais erioed y cyfle i gwrdd ag R.S. Thomas. Hoffwn ofyn iddo i ba raddau y mae’n cytuno gyda theorïau ôl-drefedigaethol am hunaniaeth ‘gymysg’- a yw e’n credu bod modd i ni ddeall ein hunain yn well trwy theori?
Efallai’n wir ei fod yn credu mai nonsens llwyr ydi hynny...!

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith o Gastell Newydd Emlyn i Landysul. Mae’n braf cael teimlo fel hambon weithie. Mae’n fy atgoffa i o nosweithiau gwyllt mas yn y Clwb Rygbi a’r anhawster bob tro wrth geisio cyrraedd adre … dyddie da…

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasta a Pesto.
Fi’n methu blasu llawer ond mae’r lliw yn gwneud y pryd…mmmm…

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Chwarae’r piano. Trwy’r dydd, bob dydd.
.
• Pa un yw eich hoff liw?
Melyn.

• Pa liw yw eich byd?
Pinc.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dim ffi am unrhyw fath o addysg.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Ond mae’r cynnwys yn gyfrinachol….comedi du…!

• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Pan ddeffrois i bore ma, ro’n i mewn hamper.

Darllenwch yn awr am Tu Chwith



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy