|
|
Newid
ar tu chwith
Cylchgrawn yr ifanc yn cael golygydd newydd
Dydd Iau, Ionawr 10, 2002
|
tu chwith . com. Cyfrol 16, gaeaf 2001. £3.50
Adolygiad gan Glyn Evans
Y mae’r cylchgrawn tu chwith.com ar gychwyn cyfnod newydd.
Wedi llai na dwy flynedd yn olygydd y mae Lowri Davies yn trosglwyddo'r
gadair i olygydd newydd, Fflur Dafydd.
Er na ddywedir hynny yn y cylchgrawn dywedodd Lowri Davies mai un
rheswm am hynny yw ei bod eisiau’r amser a gymer i olygu’r cylchgrawn
i gwblhau ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru.
'Herfeiddiol a phryfoclyd'
Yn y cylchgrawn ei hun mae’n crybwyll rhesymau eraill hefyd:
"Os
yw cylchgrawn herfeiddiol a phryfoclyd fel tu chwith am barhau
i wthio ffiniau a thorri dros y tresi, mae gwaed ffres a gogwydd newydd
yn hanfodol."
Gwaed a gogwydd Fflur Dafydd fydd y rheini sy’n cael ei disgrifio
fel, cerddor, cyfansoddwraig, bardd, awdures.
Bydd hi’n arwain - neu’n cael ei harwain gan - fwrdd golygyddol yn
cynnwys r. arwel jones, sion t. jobbins, gwenan p. thomas, owen martell,
twm morys a sioned puw rowlands.
Nid yn enw’r cylchgrawn yn unig y mae tu chwith yn ymwrthod
a phrif lythrennau; a hynny’n gydnaws a'i natur fymryn yn hunandybus
- a adlewyrchir gan y .com yna yn ei deitl.
Cylchgrawn yw sy’n cael ei ddisgrifio fel " y cylchgrawn celfyddydol
i’r Gymru fodern" ac sy’n cael ei gynhyrchu gan bobol ifanc (yn bennaf)
ar gyfer pobol ifanc (yn bennaf).
Y mae rhwng pump a chwe chant yn ei brynu.
Themâu gwahanol
Rhan o apêl tu chwith yw ei fod yn chwilio am themâu ar gyfer
ei wahanol rifynnau.
Thema’r rhifyn diweddaraf ( cyfrol 16, gaeaf 2001) ydi bwyd a diod,
a’r cylchgrawn wedi ei rannu’n gyrsiau bwydlenaidd fel foie gras,
filet mignon, frijoles a fondue - er mae'n anodd deall
sut y gallodd cylchgrawn mor flaengar a phryfoclyd osod bwyd mor ffiaidd
a foie gras ar ei fwydlen!
Mewn nodyn golygyddol yr eglurir pam y dewiswyd y thema hon.
"Mae bwyta ac yfed bellach ar flaen agenda unrhyw ddiwylliant poblogaidd
gwerth ei halen yn sgil dylanwad aruthrol y garfan newydd ac ifanc
honno o gogyddion rhywiol sydd wedi meddiannu ein cartrefi . . ."
Hynny yw, y mae yna fwy o wthio rhaglenni coginio i lawr ein cyrn-gyddfau
o’r teledu nag a fu erioed; a’r cwestiwn y mae tu chwith yn
ei ofyn yn sgil hynny yw:
"Ond beth amdanom ni’r Cymry? I ba raddau yr ydym ni’n barod i ddyrchafu’r
broses o lewni (sic) twll yn gelfyddyd o’r radd flaenaf?"
Cenedl o lymeitwyr
Er nad wyf yn teimlo fod hynny’n cael ei ateb ar y dalennau sy’n dilyn
y mae yma ddigon i gnoi cil drosto fo (plîs, plîs, maddeuwch imi ond
y mae gan bob adolygydd yr hawl i o leiaf un trosiad mwys) a sawl
sylw pryfoclyd yn cael ei wneud.
Nid lleiaf gan Lefi Gruffudd o Wasg y Lolfa sy’n how edrych ar berthynas
y Cymry a’r ddiod gadarn - cwlt y meddwi cymreig (neu nefoedd yn
y dafarn).
"Prin y gellid honni bod y gallu i feddwi wedi cael y gydnabyddiaeth
haeddiannol gan geidwaid dysg a diwylliant Cymru," meddai.
A hynny er bod 90 y cant o’r boblogaeth yn hel tafarnau o gymharu
a dim ond 12 y cant yn mynychu lle o addoliad.
Mewn cystadleuaeth Cwpan Yfed y Byd byddai Cymru, yn ôl Lefi, ymhlith
yr wyth ar y brig yn "weddol rwydd" - ond dydio ddim mewn gwirionedd
fel pe’n sylweddoli difrifoldeb sefyllfa o’r fath.
Cymryd ei bwnc braidd yn ysgafn y mae gan ein beirniadu fel cenedl
am slotian lagyrs Lloegr yn hytrach na’n cwrw melyn bach ein hunain
- fel yr un y mae o’n gysylltiedig a'i fragu.
Cytuna a’r honiad fod y rhan fwyaf o brofiadau gorau bywyd yn deillio
o effeithiau alcohol.
"Mae gan y Cymry broblem yfed," meddai, "y ffaith nad yw llawer o
bobl yn yfed digon (tra fod y gweddill ohonom yn yfed gormod)."
Byd byrgyrs
Dylanwad pell-gyrhaeddol a sinistr cwmnïau fel McDonalds a Coca-Cola
ydi testun erthygl Dyfrig Jones (a sleifiodd i mewn, mae’n ymddangos,
heb fod trwy law is-olygydd).
Y mae’n codi materion pwysig parthed perthynas y cwmnïau rhyngwladol
hyn a’r gyfundrefn addysg yn yr Unol Daleithiau a dylai’r hyn sydd
ganddo i’w ddweud ein deffro ninnau i beryglon tebyg yma.
Cyffes merch dew Bwyta gormod ydi’r aflwydd i Heledd Fychan, hogan
dew - er gwaethaf ei henw - a gollodd chwe stôn trwy reoli’r hyn mae’n
ei fwyta.
"Os clywch chi bobl dew yn dweud eu bod nhw yn berffaith hapus gyda’u
cyrff, mae nhw (sic) unai yn wallgof, neu yn fwy tebygol, yn palu
celwyddau . . . mae bloneg yn medru eich caethiwo gan ei fod yn eich
atal rhag byw bywyd cyfangwbl arferol," yw ei rhybudd hi - ond heb
grybwyll peryglon y gwrthwyneb hefyd.
Prifardd yn dychan
Troi at ddychan y mae’r Prifardd Iwan Llwyd yn ei erthygl "tai
uchelwyr y beirdd 1998-2001" gyda sylwadau craff a deifiol am
"Llys Rhodri Fawr ym Mae Caerdydd."
Sgwennwr arall o’r to mwy aeddfed sy’n cael ei le yn y cylchgrawn
i’r ifanc ydi Jon Gower sy’n sôn am brofiad bwyd ym Montana.
Adran werthfawr yn y cylchgrawn ydi "tu chwith yn comisiynu"
gyda darnau rhyddiaith y tro hwn gan Eirian Rees Davies a Wil Parry
a darlun gan Ceri Gibbons.
Ni ellir ond canmol a chymeradwyo hwyluso’r ffordd i rai newydd fentro
cael eu gwaith ar bapur.
Cyhoeddir tu chwith.com ddwywaith y Pris tanysgrifiad yw £7.
(Adran y Gymraeg, Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth. SY23
2AX.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
|
|