| |
|
|
|
|
|
|
|
Dewi Prysor ar raglen Gaynor 'Sgwennu' ers yn blentyn
Er nad oedd yn un i ganolbwyntio ar ei waith yn yr ysgol- yr oedd y nofelydd Dewi Prysor hyd yn oed yr adeg honno yn dangos arwyddion o fod yn sgrifennwr.
"Doeddwn i ddim yn un am ganolbwyntio yn ystod yr ysgol - doeddwn i ddim yn un a llawer o ddiddordeb mewn gwaith. Ond wedi dweud hynny, o sbïo'n ôl roeddwn i'n un oedd yn giarantîd o sgwennu straeon achos roeddwn i wrth fy modd yn sgwennu straeon - yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mi fyddai'r athrawon yn cadarnhau hynny dwi'n siŵr," meddai wrth gael ei holi gan Gaynor Davies ar ei rhaglen ar ±«Óãtv Radio Cymru, fore Mercher, Chwefror 28, 2007.
"Roeddwn i wrth fy modd yn sgwennu - roedd yr athrawon o hyd yn dweud; 'Rhaid iti wneud rhywbeth am hyn".
Yng ngharchar Ond datgelodd Dewi Prysor mai dim ond yn ystod y cyfnod ar y cafodd ei gadw dan glo yn disgwyl canlyniad achos llys yn ei erbyn y gwnaeth o ail afael yn ei sgrifennu ac un o ganlyniadau hynny oedd y ddrama WD2416 a lwyfanwyd gan Llwyfan Gogledd Cymru dro'n ôl.
"Yn ystod 1992 mi wnes i wneud pedwar mis ar ddeg o garchar ar remand [cyn ei gael yn ddieuog] a dwi'n sôn am y profiad personol o beth ddigwyddodd yng ngharchar," meddai am y ddrama.
Brwydr o'i flaen Dywedodd nad oedd y syniad o dreulio 14 mis yng ngharchar i ddim yn rhywbeth oedd yn ei lethu yn ystod carchariad gan fod pethau eraill i fynd â'i feddwl.
"Dydach chi ddim yn meddwl amdano fo pan ydych chi yn ei ganol o - mae gynnoch chi frwydr o'ch blaen ac hefyd mi rydach chi'n troi y profiad yn rhywbeth adeiladol ac yn rhywbeth positif a dyna beth mae'r ddrama amdan - y profiad hwnnw o droi rhywbeth reit negyddol yn rhywbeth adeiladol hefyd.
"A dweud y gwir, dwi heb droi'n ôl ers hynny achos pan oeddwn i yn y carchar y gwnes i ddechrau ar fy sgwennu," meddai.
Nid yn unig yr oedd yn lle da i gael cymeriadau gwahanol "ond roedd o'n lle da i gael amser hefyd!" meddai wrth Gaynor Davies.
Dywedodd ei fod yn "hapus ofnadwy" gyda'r llwyfaniad - yn enwedig perfformiad Dyfrig Evans a chyfarwyddo Ian Rowlands.
"Oherwydd ei fod wedi cael ei lwyfannu roedd o'n rhywbeth y tu allan i ti dy hun. Er mai [fi]oedd y person i fod roedd y ffordd roedd wedi cael ei gyflwyno ar ffurf ffuglen - ond bod y pethau i gyd yn wir hefyd.
"Oherwydd hynny roedd o [fel pe byddai] y tu allan i mi ac mewn ffordd roeddwn i'n gwatsiad rhywbeth roedd rhywun arall wedi'i wneud."
'Profiad bywyd' Disgrifiodd ei nofel gyntaf Brithyll a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel "profiad bywyd" a dylanwad y cymunedau y bu'n byw ynddynt.
"Dwi'n lecio pobl a'r hiwmor yn sgwrs bob dydd pobl a'r hyn sy'n digwydd bob dydd pan nad ydyn nhw'n trio bod yn ddigri - dwi'n eu gweld nhw'n ddigri uffernol.
"Felly, dwi jyst wedi bod fatha sbwng ac yn cadw hyn i gyd i mewn ac eisiau creu rhywbeth allan ohono fo a dyna'n syml iawn, iawn, ydi Brithyll," meddai.
"Nid bod y straeon yn wir , mae'r rheini yn dod o'r dychymyg ond mae yna ronynnau o wirioned," ychwanegodd.
O flaen cyfrifiadur Dywedodd mai dim ond "weithiau" y mae o'n sgrifennwr disgybledig sy'n mynd at ei gyfrifiadur yn ddeddfol bob bore.
"Dydi hi [yr awen] ddim yna bob dydd nac ydi? Mae'n ddigon hawdd dweud; O mi gai bymtheg awr ar y compiwtar fory ac Mi fyddai wedi gwneud be ydw i eisiau'i wneud fory yn braf. . . - ond pan wyt ti'n mynd yna y bore wedyn dydi o ddim yna [a does dim byd yn dod]."
Dywedodd ei fod wedi dechrau ar "rhyw fath o ddilyniant" i Brithyll.
Mae hefyd yn gweithio ar albwm rege efo Vates ac mae'n fwriad cynnal ychydig o gigs pan fydd yr albwm hwnnw allan.
Ef hefyd ydi cadeirydd Gŵyl Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog.
Cysylltiadau Perthnasol
Dewi Prysor DW2416
Brithyll - adolygiad
Dewi Prysor - atebion holiadur
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|