±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Brithyll - adolygiad
Hwyl, chwerthin ac anobaith
  • Adolygiad Lowri Roberts o Brithyll gan Dewi Prysor. Lolfa. £7.95


  • Gaf i'ch rhybuddio chi ar y dechre fel hyn, bod yna berygl ichi dagu ar eich tsips wrth ddarllen y nofel hon.

    A na, nid cyfeirio at y rhegi cyson drwyddi draw yr ydw i chwaith.

    Clawr y llyfrNa, yr hyn sy'n taro dyn am y nofel hon yw'r hiwmor, y direidi a'r tynnu coes dieflig sy'n frith drwyddi.

    Nofel yw hi sydd wedi ei lleoli ym mhentref Graig yng ngogledd Meirionnydd. Does dim stori fel y cyfryw - yr hyn a geir yma yw ymwneud cymeriadau'r pentref â'i gilydd.

    Ac oes, mae yma lu o gymeriadau. Cledwyn, Sbanish a Bic yw'r cyntaf inni ddod ar eu traws - a hynny yn y 'cells' yng ngorsaf Heddlu Dolgellau.

    Cymeriadau digon annwyl a hoffus yn y bôn ond unigolion sydd, am amryw resymau - yn bennaf yn ymwneud ag alcohol a chyffuriau - yn cael eu hunain i drybini byth a beunydd.

    Eisiau dial
    Gwrth arwr y nofel yw'r dihiryn Walter Sydney Finch - gŵr cefnog a blin sydd am ddial ar y sawl fu mor hy â dwyn brithyll o'i danc stocio.

    Dyna yn ei hanfod yw plot y nofel, sef ymdrechion Finch a PC Pennylove i ddod â'r drwgweithredwyr i gyfraith.

    Ond i mi, y rhialtwch a'r miri sy'n codi o sefyllfaoedd ac amgylchiadau bob dydd sy'n aros fwyaf yn y cof.

    Ym mhob opera sebon dda mae yna wrthdaro, ffraeo a herio. Yng nghyd-destun y nofel hon, yn nhafarn y Brithyll Brown neu'r 'Trout' y digwydd nifer o'r troeon chwithig hynny.

    Yma hefyd y cawn ein cyflwyno i gymeriadau fel Tulip, Tomi Shytyl, Jac Bach y Gwalch, Anthracs a Tintin - cymeriadau sydd byth a hefyd yn tynnu ar ei gilydd ond pobl sydd eto'n driw i'w cymuned a'u 'tebyg'.

    Portreadau a deialog
    Yn ei bortreadu a'i ddeialog agos atoch chi y mae gwir athrylith Dewi Prysor yn dod i'r amlwg.

    Mae yma ddisgrifiadau ac ymsonau gwirioneddol wych.

    Pwy all anghofio taith seithug Drwgi Ragarug wrth iddo ymlwybro tuag adre wedi sesiwn yfed trymach na'r arfer yn y Brithyll Brown?

    A beth am anffawd Amber a'i llipryn gŵr ar y bws deg o Dre i Graig?

    Sgetsys y byddai digrifwyr fel Catherine Tate, Matt Lucas a David Walliams yn falch ohonynt.

    Tristwch ac anobaith
    Ond yn ogystal â'r coegni mae yma hefyd dristwch ac anobaith gyda Chledwyn ei hun ar adegau yn cwestiynu ei ffordd o fyw;
    'Bysts, ffeins, cwrt, jêl falla...Pa fath o fywyd oedd hwnna i ddyn yn niwadd ei dri degau efo teulu bach ifanc?'

    Ond i mi y tristwch mwyaf yw'r ffaith bod cymunedau fel y Graig, bellach wedi eu herydu o'r tirlun.

    Er gwaetha'r ffwlbri a'r torcyfraith, y diota a'r tripio, mae yn y Graig gymuned glòs, Gymreig.

    Yn anffodus, prin iawn yw cymunedau felly heddiw.

    Ond dyna ddigon o athronyddu. Rhaid pwysleisio mai nofel yn llawn hiwmor yw Brithyll. Diau, ei bod yn nofel na fydd wrth ddant pawb ond yn hynny o beth mae Dewi Prysor i'w longyfarch am gicio yn erbyn y tresi.

    Da chi, prynwch, mentrwch a mwynhewch!
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Brithyll i blant ysgol

  • Holi Dewi Prysor


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý