|
|
Cyfle
i chi ddewis eich hoff gerddi serch ar gyfer llyfr
Hefyd ar y ddalen hon:
Rhestr
o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau
Dydd Iau, Ionawr 18, 2001
|
I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch
yma:
Neu darllenwch yn gyntaf am
gasgliad Gwasg Gomer o hoff gerddi serch Cymru
Mae Gwasg Gomer yn gwahodd pobl Cymru i ddewis eu hoff gerddi serch
Cymraeg i’w cyhoeddi mewn cyfrol ar gyfer y Nadolig nesa.
Cyhoeddir yr apĂŞl ar adeg pan ddylsen ni i gyd fod mewn hwyliau
rhamantus - ar drothwy Dydd Santes Dwynwen, a bydd Dydd Sant Ffolant
yn dilyn ymhen ychydig.
“Bydd y gyfrol - dan yr enw Hoff Gerddi Serch Cymru - yn
dilyn llwybr y gyfrol Hoff Gerddi Cymru a gyhoeddwyd y llynedd,”
meddai Bethan Mair Matthews, Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion
Gwasg Gomer.
“BłÜ Hoff Gerddi Cymru yn syfrdanol o boblogaidd ac y mae’n
fwriad gennym gyhoeddi sawl casgliad o gerddi gwahanol er mwyn cael
cyfres o lyfrau barddoniaeth y bydd pawb yn mwynhau eu darllen.
“Fe gawson ni ymateb da gan y cyhoedd wrth ddewis Hoff Gerddi
Cymru, a rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn danfon eu dewis
atom ar gyfer y gyfrol hon.
“Roeddwn i’n synnu nad oedd un o gerddi Dafydd ap Gwilym yn y casgliad
cyntaf ond efallai y bydd rhywbeth ganddo yn y cerddi serch hyn.”
Mae Bethan yn gwahodd llythyron - Bethan Mair, Gwasg Gomer, Llandysul,Ceredigion;
neu negeseuon ffacs ar 01559 363758; neu negeseuon e-bost - gwasg@gomer.co.uk
“Fe fydd y gyfrol yn anrheg Nadolig delfrydol,” ychwanegodd.
Dyma'r
rhest ddiweddaraf o lyfrau sydd wedi cyrraedd y siopau:
Cymraeg a dwyieithog
ANTERLIWTIAU HUW JONES O LANGWM: Gol. A. Cynfael Lake 1900437376
Cyhoeddiadau Barddas ÂŁ14.95 Astudiaeth o fywyd a gwaith un o ffigurau'r
ddeunawfed ganrif.
CANHWYLL MARCHOGYON - CYD-DESTUNOLI PEREDUR: Goln. Sioned Davies,
Peter Wynn Thomas 0708316395 Gwasg Prifysgol Cymru ÂŁ14.99 Cyfrol
o astudiaethau yn edrych o'r newydd ar chwedl Peredur.
COFRESTRI PLWYF CYMRU / PARISH REGISTERS OF WALES: Goln. C.J. Williams,
J. Watts-Williams 1862250227 / 1862250200 Llyfrgell Genedlaethol
Cymru ÂŁ9.95 / ÂŁ14.95 Y manylion diweddaraf am holl gofrestri plwyf
Cymru a’r copïau ohonynt a gedwir gan y Llyfrgell Genedlaethol.
COGINIO GYDA DUDLEY: Dudley Newbery 0862435463 Y Lolfa ÂŁ8.95 Rhyseitiau
ar gyfer pob achlysur gan y cogydd teledu poblogaidd.
DAWN DWEUD: DANIEL OWEN: Robert Rhys 0708313418 Gwasg Prifysgol
Cymru ÂŁ12.99 Cyfrol yn adrodd hanes bywyd Daniel Owen ac yn trafod
ei brif weithiau.
FFRWD CEINWEN: William R. Lewis 0948469722 Gwasg Taf ÂŁ5.95 Drama
gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Ynys MĂ´n 1999.
HELYG AR YR AFON Camilla Ashforth 1902416368 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
ÂŁ5.50 Llyfr stori-a-llun am ddau dedi yn cael antur ar yr afon.
IAITH LAFAR BRYCHEINIOG: Glyn E. Jones 0708316409 Gwasg Prifysgol
Cymru ÂŁ35.00 Astudiaeth o ffonoleg a morffoleg iaith lafar Brycheiniog.
LLĂŠN Y LLENOR: ROBIN LLYWELYN: Angharad Price 1903314070 Gwasg Pantycelyn
ÂŁ4.00 Astudiaeth o waith yr awdur Robin Llywelyn.
MAWL A'I GYFEILLION - CYFROL 1: R.M. Jones 1900437449 Cyhoeddiadau
Barddas ÂŁ14.95 Beirniadaeth lenyddol yn trafod y traddodiad barddol.
OWEN GETHIN JONES - EI FYWYD A'I FEIAU: Vivian Parry Williams 0863816657
Gwasg Carreg Gwalch ÂŁ6.00 Hanes bardd, hynafiaethydd ac adeiladydd
o fri yn Nyffryn Conwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
STRAEON SALI MALI: 1. TEISEN I DE Siân Lewis 1902416422 Cymdeithas
Lyfrau Ceredigion ÂŁ2.99 Un o gyfres o storĂŻau newydd am y cymeriad
poblogaidd i blant.
STRAEON SALI MALI: 2. TRAED BUDR Siân Lewis 1902416449 Cymdeithas
Lyfrau Ceredigion ÂŁ2.99 Un o gyfres o storĂŻau newydd am y cymeriad
poblogaidd i blant.
STRAEON SALI MALI: 3. CWYMP Y DAIL Siân Lewis 1902416430 Cymdeithas
Lyfrau Ceredigion ÂŁ2.99 Un o gyfres o storĂŻau newydd am y cymeriad
poblogaidd i blant.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU
DEAD LONG ENOUGH: James Hawes 0099759810 Jonathan Cape ÂŁ6.99 Nofel
gyfoes gan awdur Rancid Aluminium.
EDUCATION POLICY-MAKING IN WALES: EXPLORATIONS IN DEVOLVED GOVERNANCE:
Goln. Richard Daugherty, Robert Phillips, Gareth Rees 0708316328
Gwasg Prifysgol Cymru ÂŁ25.00 Cyfrol o ysgrifau yn astudio i ba raddau
y mae addysg yng Nghymru wedi datblygu’n wahanol i Loegr.
GREAT WELSH FANTASY STORIES: Gol. Peter Haining 0863816185 Gwasg
Carreg Gwalch ÂŁ6.90 StorĂŻau yn seiliedig ar chwedlau Cymreig traddodiadol.
HEIRS OF SALVATION - STUDIES IN BIBLICAL ASSURANCE: D. Martyn Lloyd-Jones
1850491747 Gwasg Bryntirion Press ÂŁ4.50 Astudiaethau ar gryfder
ffydd mewn Cristnogion.
HERITAGE, PLACE AND COMMUNITY: Bella Dicks 0708316689 Gwasg Prifysgol
Cymru ÂŁ14.99 Y defnydd a wneir o dreftadaeth i adfywio hen ardaloedd
diwydiannol.
LANGUAGE REVITALIZATION - POLICY AND PLANNING IN WALES: Gol. Colin
H. Williams 0708316670 Gwasg Prifysgol Cymru ÂŁ35.00 Astudiaeth o
greu polisĂŻau ac adfywiad iaith.
ONE WOMAN, ONE VOICE: Gol. Hazel Walford Davies 1902638085 Parthian
Books ÂŁ6.99 Monologau gan Lucy Gough, Christine Watkins, Lucinda
Coxon a Sharon Morgan.
REFORMATION: YESTERDAY, TODAY AND TOMORROW: Carl R. Trueman 1850491755
Gwasg Bryntirion ÂŁ4.95 Testun y ddarlith a draddodwyd mewn cynhadledd
ym Mhen-y-bont ar Ogwr eleni.
SWANSEA REMEMBERED Gol. David Roberts 1859832040 Breedon Books ÂŁ12.99
Casgliad o hen luniau yn dangos Abertawe’r gorffennol.
TERROR FIRMA: Matthew Thomas 0007100221 HarperCollins ÂŁ5.99 Nofel
gyfoes a dychanol.
WRITERS OF WALES SERIES: ARTHUR IN MEDIEVAL WELSH LITERATURE: O.J.
Padel 0708316824 Gwasg Prifysgol Cymru ÂŁ5.99 Astudiaeth o gyfeiriadau
at Arthur mewn llenyddiaeth ganoloesol.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd
Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau
o'ch dewis chi, cliciwch ar
|
|
|