±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

±«Óãtv ±«Óãtvpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Spanglish
Mewn dwy iaith

12aPedair seren

Y sêr
Adam Sandler, Paz Vega, Téa Leoni, Cloris Leachman, Shelbie Bruce.

Cyfarwyddwr
James L Brooks

Sgrifennu
James L Brooks

Hyd
131 munud

Sut ffilm
Er yn cael ei chyflwyno fel comedi; ffilm ysgafn a theimladwy yw hi mewn gwirionedd a'i byrdwn ar fod yn driw i chi eich hun a'ch tras.

Y stori
Mae Flor (Paz Vega) yn dianc dros y ffin o Fecsico i fyw yn yr Unol Daleithiau gyda'i merch fach eithriadol o dlws, Cristina (Shelbie Bruce). Yno, mae'n cael ei chyflogi'n forwyn yng nghartref John a Deborah Clasky (Adam Sandler a Téa Leoni) , eu merch Berice (Sarah Steele) a mam Deborah (Cloris Leachman).

Er i Cristina ddysgu Saesneg dim ond Sbaeneg sydd gan ei mam ac mae hynny'n destun rhywfaint o ddoniolwch a rhwystredigaeth rhyngddi hi a'i chyflogwyr gyda'r ferch fach yn gorfod cyfieithu'r sgyrsiau rhyngddynt.

Ond mae arwyddocâd dyfnach i'r 'broblem iaith' hon.

Yn wraig rwystredig a siomedig o Bernice, ei merch dew ei hun, mae Deb yn closio gymaint at y Sbaenes fach hynod o dlws y mae'n ei phrysur feddiannu fel pe byddai yn ferch iddi ei hun.

Y canlyniad ydi tyndra a gwrthdaro rhwng pawb - yn enwedig rhwng Deb a Flor sydd am fagu ei merch yn driw i'w gwreiddiau Sbaenaidd ac hefyd rhwng Bernice a'i mam.

Yn y canol yn cymodi y mae mam feddw, Deb, sydd wedi cymryd at Flor oherwydd ei bod "yr unig un sydd ddim yn feirniadol ohona fi".

Adroddir y stori gan Cristina o draethawd amdani ei hun sy'n rhan o gais mynediad i brifysgol Princeton.

Y darnau gorau
Mae nifer o olygfeydd da:
Gan na ddefnyddir isdeitlau gall y golygfeydd Saesneg-Sbaeneg fod yn hwyl - er i rai beirniaid gwyno am hyn.
Mae ffrae trwy gyfrwng cyfieithydd yn gweithio'n dda iawn.

Deborah a John yn caru.

Perfformiadau
Gan nad yw'r cyfarwyddwr yn siŵr ai comedi ynteu drama ddifrifol yw hon mae'r perfformiadau yn amrywio o actor i actor o ran dehongliad.

O bosib mai Sandler, fel y gŵr sy'n cael ei ddal yn y canol, sy'n dygymod orau.

Ond wedi dweud hynny, mae perfformiad Leoni yn hynod afaelgar yn 'dwyn' Cristina er mwyn ei 'hachub' - mewn rhyw ffordd Eliza Doolittle-aidd - trwy ei boddi mewn gwerthoedd a deisyfiadau Americanaidd y mae Flor yn reddfol am amddiffyn ei merch rhagddynt.

Unochrog a simplistaidd braidd yw cymeriad Flor. Diolch byth, felly, fod Vega yn actores ddigon medrus i argyhoeddi ac i ennyn ein cydymdeimlad tuag at fam sy'n gweld ei phlentyn yn cael ei meddiannu a'i mowldio'n Americanes.

Gystal â'r trelar?
Heb weld un.

Y canlyniad
Gyda'r thema o 'berthyn' ac o werthoedd ac o amrywiaeth ddiwylliannol mae apêl arbennig yma i Gymry. Hefyd, mae'n haws i ni werthfawrogi arwyddocâd y sefyllfa ieithyddol.

Gwendid y ffilm yw ei bod yn llawer, llawer, iawn rhy hir. Gellid o leiaf fod wedi tocio rhai golygfeydd yn sylweddol os nad hepgor ambell un yn llwyr a thrwy hynny wneud y ffilm yn uniad llawer tynnach a mwy effeithiol.

Ar wahân i hynny mae yma blethiad cwbl dderbyniol o hiwmor, dwyster, dychan a drama gyda digon o deimladrwydd i wlychu'r llygaid..

Geiriau cofiadwy
Mae'r gwrthdaro rhwng dau ddiwylliant yn cael ei grynhoi pan yw Cristina yn cael ei hystyried ar gyfer ysgoloriaeth ysgol Americanaidd aruchel:
"Un ai fe fydd hi'n od yno neu fe fydd yn rhaid iddi droi ei hun i fod fel hwythau," meddai Bernice.

Meddai Cristina am ei hunaniaeth: "Mae pwy ydw i yn dibynnu'n llwyr ar un peth - yr wyf yn ferch fy mam."

Meddai ei mam am Deborah: "Y tro hwn, synnwyr cyffredin ydi dy farn isel ohono ti dy hun."

Pan wêl Deborah Cristina gyntaf: "Drychwch ar y plentyn yna - gallai wneud ffortiwn yn cario babis i eraill."

Meddai'r fam am ei meddwdod: "Fe roddais i'r gorau i yfed rai wythnosau yn ôl ond wnaeth neb sylwi - sy'n golygu fy mod i'n ymddwyn yn eithaf pan oeddwn i'n feddw , mae'n rhaid."

Ambell i farn
Ni fu neb yn gor ganmol gyda gwefan Saesneg y ±«Óãtv yn cyhuddo'r cyfarwyddwr o fod mewn tir neb rhwng comedi a drama ac heb wybod i ba gyfeiriad i fynd.

Cwynodd mwy nag un - yn annheg, siŵr o fod - at ddiffyg isdeitlau.

Haws deall y cyhuddiad fod Leoni yn goractio ond nid pawb fyddai'n cytuno â hynny ychwaith.

Mae unfrydedd barn ynglŷn â pherfformiad clodiw Cloris Leachman fel y fam yng nghyfraith feddw-ond-doeth fodd bynnag.

Cytunir hefyd y gellid fod wedi gosod mwy o her i Vega trwy ddatblygu cymeriad hynod unochrog Flor.

Gwerth mynd i'w gweld?
Heb os.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý