±«Óãtv

Mae pleidleisio yn un ffordd i grŵp o bobl wneud penderfyniad gyda’i gilydd. Mae’n gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i chwarae rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn ffordd deg.

Efallai dy fod ti wedi pleidleisio i ddewis gweithgaredd neu bwnc yn yr ysgol. Neu efallai dy fod ti wedi pleidleisio i ddewis rhywun i ymuno â chyngor yr ysgol neu’r grŵp arweinyddiaeth. Mae cymryd rhan yn y pleidleisiau hyn yn gyfle i ti ddweud dy farn am bethau sy’n effeithio arnat ti.

Gwylio: Sut a pham rydyn ni'n pleidleisio?

Mae Efa, Rhys a Lina yn trafod pam ei bod yn bwysig eu bod nhw’n pleidleisio yn yr etholiad i ddewis aelodau cyngor yr ysgol. Maen nhw’n darganfod beth yw syniadau’r ymgeiswyr cyn pleidleisio mewn pleidlais gudd.

Beth yw democratiaeth?  

Ystyr democratiaeth yw ‘rheolaeth gan y bobl’ sy’n golygu bod y bobl yn penderfynu pwy sy’n rhedeg y wlad. Mewn democratiaeth, mae gan bobl lais mawr yn y ffordd mae’r wlad yn cael ei rhedeg, a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.

Mae gan y bobl lais drwy bleidleisio mewn etholiadau. Mae pobl yn pleidleisio dros y bobl maen nhw eisiau eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau am sut mae’r wlad yn cael ei rhedeg.

Mae’r bobl yma’n cael eu galw’n gynrychiolwyr gan eu bod nhw’n siarad neu’n gweithredu ar ran pobl eraill. Mae’r cynrychiolwyr yma’n gweithio gyda’i gilydd i wneud penderfyniadau a chytuno ar y sy’n effeithio ar bob un ohonon ni.

Mae pobl fel arfer yn pleidleisio dros y person y maen nhw’n teimlo fydd yn gwneud y penderfyniadau gorau.

Sut ydyn ni’n pleidleisio?

Yn y Deyrnas Unedig, mae pleidleisiau’n cael eu marcio ar ddarn o bapur. Ar y papur, mae rhestr o enwau’r holl bobl sydd eisiau cynrychioli’r ardal honno. Mae’r pleidleisiwr yn rhoi X yn y bocs wrth ymyl enw’r person maen nhw eisiau iddyn nhw ennill. Mae pobl yn gallu pleidleisio drwy’r post, neu drwy fynd i .

Llaw yn rhoi papur pleidleisio mewn i flwch pleidleisio

Mae'r papurau pleidleisio yn cael eu rhoi mewn blwch. Ni fydd y blwch yn cael ei agor nes bydd y pleidleisio wedi dod i ben a bod y pleidleisiau’n barod i gael eu cyfrif.

Mae hyn i gyd yn cael ei wneud yn breifat ac mae’n cael ei alw’n .  Mae pleidleisio’n cael ei wneud yn gyfrinachol er mwyn sicrhau:

  • nad oes neb arall yn gwybod dros bwy wnest ti bleidleisio
  • bod pobl yn teimlo'n gyfforddus a rhydd i wneud eu dewis eu hunain
Llaw yn rhoi papur pleidleisio mewn i flwch pleidleisio

Y person sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn ardal benodol sy'n ennill.

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n ceisio ennill yr etholiad yn rhan o .  Mae pobl yn aml yn pleidleisio dros y person sy’n rhan o’r blaid wleidyddol y maen nhw’n cytuno fwyaf â hi.

Pam dylen ni bleidleisio?  

Yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, galli di ddewis peidio â phleidleisio mewn etholiadau. Ond mae llawer o bobl yn teimlo bod pleidleisio yn beth pwysig y dylai ei wneud. Os yw grwpiau o bobl yn dewis peidio pleidleisio, efallai na fydd y cynrychiolwyr etholedig yn ystyried eu barn gymaint pan maen nhw'n gwneud penderfyniadau.

Yr hawl i bleidleisio 

Mae’r hawl i bleidleisio yn un o’n hawliau dynol.

Mae hawliau dynol wedi’u rhestru yn Natganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Dyma restr o 30 o hawliau a rhyddid y dylai pob un ohonon ni eu cael, ar draws y byd. Cafodd ei ysgrifennu yn 1948. Mae cyfreithiau rhyngwladol am hawliau yn dal i fod yn seiliedig ar y rhestr hon gan y Cenhedloedd Unedig.

Hanes pleidleisio 

Nid yw pobl yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig bob amser wedi bod â’r hawl i bleidleisio. Ymhell yn ôl, roedd brenhinoedd, breninesau a thywysogion yn rheoli fel oedden nhw eisiau, ac nid oedd gan bobl hawl i bleidleisio o gwbl.

Ar y dechrau, pan oedd gan y DU senedd, dim ond dynion cyfoethog oedd yn cael pleidleisio dros aelodau seneddol, ac nid oedd y fath beth â phleidlais gudd.

Bu'n rhaid i bobl gyffredin brotestio cyn i bawb gael yr hawl i bleidleisio.

Y Siartwyr 

Yn y 1830au, roedd y Siartwyr yn grŵp oedd eisiau i fwy o bobl gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau.

Ar y pryd, dim ond un o bob pum dyn oedd yn gallu pleidleisio. Roedd y Siartwyr yn teimlo fod hyn yn annheg.  Fe wnaethon nhw ysgrifennu rhestr o chwech o ofynion, yn eu ‘Siarter y Bobl’ yn 1838.  Roedd eu gofynion yn cynnwys:

  • pob dyn dros 21 oed i gael yr hawl i bleidleisio
  • etholiadau i’w cynnal bob blwyddyn
  • pleidleisio yn gyfrinachol

Anfonodd y Siartwyr i’r senedd, ond wnaeth y llywodraeth ddim gwrando arnyn nhw. Arweiniodd hyn at rai Siartwyr yn defnyddio dulliau treisgar. Cafodd eu harweinwyr eu harestio ac fe wnaeth y mudiad ddirywio.

Pobl yn saethu at adeilad tra bod cannoedd o bobl yn y cefndir yn gorymdeithio i ymuno â nhw
Image caption,
Pan orymdeithiodd y Siartwyr i Gasnewydd ym mis Tachwedd 1839, fe wnaethon nhw wrthdaro â milwyr yng Ngwesty'r Westgate

Methodd y Siartwyr ar y pryd ond erbyn heddiw mae pob un ond un o’u gofynion wedi’u bodloni.

Y Swffragetiaid

Cyn 1918, nid oedd menywod yn cael pleidleisio o gwbl.  Roedd llawer o grwpiau o fenywod yn protestio i geisio cael yr hawl i bleidleisio. Enw’r grŵp enwocaf o brotestwyr oedd y Swffragetiaid. Emmeline Pankhurst wnaeth ddechrau'r grŵp yma.

Fe wnaethon nhw gynnal ymgyrchoedd enwog, gan hyd yn oed ddefnyddio tactegau treisgar i geisio dangos y dylen nhw gael yr hawl i bleidleisio.

Y Swffragét enwocaf o Gymru yw Margaret Haig Thomas, a ddaeth yn Arglwyddes Rhondda yn ddiweddarach. Roedd hi’n dod o Lan-wern, Casnewydd.  Fe aeth hi ar orymdeithiau a chymerodd ran mewn mathau eraill o brotestiadau hefyd. Cafodd ei hanfon i’r carchar am roi blwch post ar dân.

Yn 1918, cafodd menywod dros 30 oed, a oedd yn berchen ar rywfaint o eiddo, yr hawl i bleidleisio. Cafodd pob dyn dros 21 oed yr hawl i bleidleisio hefyd.

Yn 1928, rhoddodd arall yr un hawliau pleidleisio i fenywod â dynion.

Dwy fenyw yn sefyll ar y ffordd o flaen torf o fenywod sy'n cario baner yr un
Image caption,
Margaret Haig Thomas ac Emmeline Pankhurst yn cymryd rhan mewn protest yn 1926

Pleidleisio o amgylch y byd 

Hyd yn oed heddiw, mae rhai rhannau o’r byd lle nad oes gan bobl yr hawl i bleidleisio, neu lle mae’r hawl wedi’i gyfyngu.

Mae hyn achos bod rhai arweinwyr yn peidio â rhoi'r hawl i bobl bleidleisio’n rhydd, neu'n atal rhai pobl rhag pleidleisio. Mae rhai gwledydd hefyd yn atal pobl rhag ceisio cael eu hethol i’r senedd.

More on Ein hawliau

Find out more by working through a topic