Gweithredu cymdeithasol yw pan fydd pobl yn mynd ati i wneud pethau yn well i bobl eraill. Gall pobl geisio gwella bywydau pobl yn y gymuned neu ddatrys problemau.
Gwylio: Sut gall gweithredu cymdeithasol wneud gwahaniaeth?
Sut gallwn ni wneud gwahaniaeth? 
Mae sawl ffordd o wneud rhywbeth i wneud gwahaniaeth a gwneud pethau'n well, yn yr ysgol neu yn dy ardal leol.
Efallai dy fod ti wedi helpu i godi arian at achosion da yn yr ysgol. Mae hyn yn enghraifft o weithredu cymdeithasol.
Efallai dy fod ti hefyd wedi rhoi bwyd i fanciau bwyd lleol. Mae rhai ysgolion yn tyfu ac yn gwerthu bwyd. Gall ysgolion hefyd redeg cynllun cyfnewid gwisg ysgol lle mae pobl yn gallu cyfnewid dillad ysgol maen nhw wedi gorffen â nhw am eitemau maen nhw eu hangen.
łŇ·Éľ±°ů´Ú´Ç»ĺ»ĺ´Ç±ôľ±â€Ż
Mae gwirfoddoli’n golygu rhoi o dy amser, am ddim, i wneud rhywbeth i helpu pobl eraill.
Mae rhai pobl yn gwirfoddoli’n rheolaidd gyda banciau bwyd, siopau elusen, grwpiau ieuenctid, canolfannau cymunedol neu erddi cymunedol. Mae rhai pobl yn gwirfoddoli mewn digwyddiadau arbennig, fel rasys hwyl neu sesiynau prynu a gwerthu.
Weithiau mae gwirfoddolwyr yn helpu pobl yn uniongyrchol, fel helpu hen bobl i siopa neu helpu person ifanc gyda'u gwaith ysgol.
łŰłľ˛µ˛â°ůł¦łółÜ 
Mae ymgyrchu’n golygu cynllunio gweithgareddau dros gyfnod o amser er mwyn newid rhywbeth.
Gallai’r gweithgareddau hyn gynnwys:
- tynnu sylw pobl at broblemau neu faterion
- ceisio perswadio'r llywodraeth/pobl sydd mewn grym i wneud newidiadau
- cynnal protest
- ysgrifennu deisebDogfen sydd wedi cael ei llofnodi gan lawer o bobl sydd yn gofyn i'r llywodraeth neu grŵp swyddogol arall i wneud rhywbeth penodol.
Gall rhai ymgyrchoedd ymwneud â phroblemau neu faterion lleol. Er enghraifft, ymgyrchu i atal ffyrdd neu dai rhag cael eu hadeiladu mewn ardaloedd lle mae llawer o goed neu anifeiliaid.
Gall rhai ymgyrchoedd ymwneud â materion byd-eang sy’n effeithio ar bobl ar draws y byd.
Ymgyrchwyr byd-eang enwog
Camau ymarferol
Mae llawer o bobl yn ceisio gwella’r sefyllfa drwy wneud pethau ymarferol. Gallai hyn gynnwys cymryd rhan mewn sesiwn casglu sbwriel gyda theulu neu ffrindiau, neu beintio mannau cymunedol.
Mae rhai pobl wedi creu gerddi cymunedol, drwy blannu coed, blodau a llysiau mewn ardaloedd sy’n cael eu rhannu fel bod pawb yn gallu eu mwynhau.
Mae pobl eraill wedi sefydlu oergelloedd cymunedol. Bydd siopau, bwytai a phobl leol yn cyfrannu bwyd i’w roi yn yr oergelloedd. Yna, bydd pobl leol yn gallu casglu bwyd pan fydd ei angen arnyn nhw.
Codi arian 
Mae codi arian at elusennau yn ffordd arall o weithredu’n gymdeithasol. Mae elusennau’n fudiadau sy’n rhoi cymorth i bobl eraill ac yn ceisio ymgyrchu i wella bywydau pobl.
Efallai eich bod chi wedi codi arian at elusennau yn yr ysgol drwy gael diwrnod dim gwisg ysgol, cynnal ffair ysgol neu fynd ar daith gerdded noddedig i godi arian i elusen.
Mae rhai elusennau’n gweithio yma yng Nghymru, fel LATCH yr elusen canser plant.
Mae elusennau eraill yn gweithio ar draws y DU, fel y British Heart Foundation, sy’n ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella a thrin clefyd y galon.
Mae rhai elusennau’n gweithio ar draws y byd, fel Oxfam. Mae Oxfam yn helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drychinebau fel daeargrynfeydd neu ryfeloedd.
Manteision cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol 
Mae gweithredu cymdeithasol yn helpu pobl eraill yn y gymuned, neu’r amgylchedd. Ond mae hefyd yn helpu'r person sy’n gwneud y gweithgaredd.
Mae’r manteision yn cynnwys:
- helpu i wella bywydau pobl eraill
- rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned
- dysgu sgiliau newydd
- cwrdd â phobl newydd
- datblygu diddordebau newydd
- bod yn rhan o dîm
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 
More on Cymuned a chymdeithas
Find out more by working through a topic