Y cyhoedd yn cael dweud eu dweud ar Gytundeb Gweithredu’r ±«Óãtv ac S4C
Heddiw (dydd Gwener 10 Awst) mae Ymddiriedolaeth y ±«Óãtv ac Awdurdod S4C wedi lansio ar y Cytundeb Gweithredu sydd yn amlinellu’r berthynas fydd rhwng y ddau ddarlledwr unwaith y daw mwyafrif cyllid S4C o ffi’r drwydded o fis Ebrill 2013.
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus, a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg, yn gwahodd unigolion a grwpiau i fynegi eu barn ar y Cytundeb Gweithredu dros y 10 wythnos nesaf, gyda dyddiad cau ar ddydd Mawrth 23 Hydref.
Ym mis Hydref 2010 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Hunt, y byddai mwyafrif incwm S4C yn dod o Ffi’r Drwydded o 2013.ÌýÌý
Yn dilyn hynny, ym mis Hydref 2011, daeth Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y ±«Óãtv i gytundeb, a fyddai’n weithredol o 2013, er mwyn sicrhau bod annibyniaeth golygyddol a rheolaethol gwasanaeth S4C yn cael ei warchod ac yn sicrhau atebolrwydd addas i Ymddiriedolaeth y ±«Óãtv ar gyfer y cyllid Ffi Trwydded i’r sianel. ÌýMae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i’r cyhoedd farnu a yw’r Cytundeb Gweithredu, a fydd y ddogfen atebolrwydd allweddol rhwng Ymddiriedolaeth y ±«Óãtv ac S4C, yn adlewyrchu’n gywir y cytundeb a wnaethpwyd yn 2011 ai peidio.
Dywedodd Ymddiriedolwr Cenedlaethol y ±«Óãtv dros Gymru, yr Athro Elan Closs Stephens:
“Fy mhrif flaenoriaeth yw helpu S4C i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith a diogelu annibyniaeth golygyddol S4C tra ar yr un pryd sicrhau bod cyllid ffi’r drwydded yn cael ei wario yn ddoeth. Mae’r cytundeb newydd hwn rhwng y ±«Óãtv ac S4C yn adeiladu ar bartneriaeth llwyddiannus rhyngom dros y 30 mlynedd diwethaf.â€
Ychwanegodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:
“Rwy’n credu bod y Cytundeb Gweithredu yn rhoi sicrwydd bod dyfodol S4C a’i gallu i weithredu’n annibynnol wedi’u diogelu, tra’n sicrhau atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y ±«Óãtv dros y defnydd o ffi’r drwydded.â€ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý
Nodiadau i olygyddion:
- Gellir gweld y Cytundeb Gweithredu a’r ymgynghoriadÌýÌý
- Caiff yr ymgynghoriad ei lansio gan Gadeirydd S4C, Huw Jones ac Ymddiriedolwr Cenedlaethol y ±«Óãtv dros Gymru, yr Athro Elan Closs Stephens, am 11am ym mhafiliwn S4C, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandŵ, Bro Morgannwg Ìý
- Mae sefyllfa gryno partneriaeth y ±«Óãtv ac S4C ar gael
- Mae’r ymgynghoriad yn cychwyn ar ddydd Gwener 10 Awst ac yn cau ar 23 Hydref. Gall y cyhoedd gyfrannu at yr ymgynghoriad trwy Ìý
Search the site
Can't find what you need? Search here