±«Óãtv

Chwilio am leisiau newydd

Chwilio am leisiau amrywiol i adlewyrchu ein cynulleidfa

Un o egwyddorion craidd Prosiect 50:50 yw bod y cyfrannwr gorau’n cael ei ddefnyddio bob amser. Rydyn ni’n annog gwneuthurwyr cynnwys i barhau i chwilio am leisiau newydd a safbwyntiau gwahanol drwy'r amser.

Drwy Ddiwrnodau Agored 50:50 a gwaith allgymorth, mae’r ±«Óãtv wedi cynyddu ei rwydwaith o gyfranwyr arbenigol er mwyn adlewyrchu'r cynulleidfaoedd mae’n eu gwasanaethu, a chryfhau ei allbwn.

Cafodd rhai o'r menywod sylw yng nghynnwys y ±«Óãtv o ganlyniad i ddigwyddiadau'r Prosiect 50:50

Bod yn gyfrannwr

Os hoffech chi fod yn rhan o’n cronfa ddata o gyfranwyr posibl, a helpu timau’r ±«Óãtv i gynnwys lleisiau mwy amrywiol yn eu cynnwys, llenwch ein ffurflen we:

Bydd Tîm Prosiect 50:50 yn casglu eich gwybodaeth ac yn sicrhau ei bod ar gael i holl arlwy a thimau cynhyrchu’r ±«Óãtv. Y timau hynny fydd yn penderfynu a ydynt am gysylltu â chi ai peidio, felly mae’r wybodaeth a roddwch chi yn y ffurflen we yn bwysig.

Nodwch eich meysydd arbenigedd a gwybodaeth, unrhyw brofiad blaenorol o gael cyfweliadau â’r cyfryngau (er nad yw hyn yn ofynnol), eich lleoliad, unrhyw ieithoedd rydych chi’n eu siarad yn rhugl (ar wahân i Saesneg), ac unrhyw wybodaeth arall a fydd yn helpu cynhyrchwyr i benderfynu a ydych chi’n addas ar gyfer eu cynnwys ai peidio.

Gan nad yw 50:50 yn argymell arbenigwyr na chyfranwyr, mae gwneuthurwyr cynnwys y ±«Óãtv yn gyfrifol am eu diwydrwydd dyladwy eu hunain pan fyddan nhw’n cysylltu, felly dydy bod ar y gronfa ddim yn golygu eich bod chi wedi cael eich cymeradwyo.

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n prosesu eich data, edrychwch ar ein hysbysiad preifatrwydd ar waelod y ffurflen.

Os ydych chi wedi ychwanegu eich hun at y gronfa ddata Cyfranwyr o’r blaen ac eisiau diweddaru neu ddileu eich manylion, .


 Menyw mewn stiwdio radio gyda chlustffonau o flaen meicroffon
Chwilio am leisiau newydd

Y Tu Hwnt i Rywedd

Dechreuodd 50:50 drwy fonitro’r gynrychiolaeth o blith menywod, ac rydyn ni wedi gweld gwelliant enfawr yn y ffordd mae menywod yn cael eu cynrychioli yng nghynnwys y ±«Óãtv, fel y gwelir yn ein Hadroddiad Effaith diweddaraf.

Rydyn ni’n ymestyn ein methodoleg lwyddiannus er mwyn cynyddu faint o gyfranwyr anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig sy’n cael eu cynrychioli.

Edrychwch sut rydyn ni wedi lansio ein hymlediad ac yn addasu’r metrigau 50:50.

 


Cyfweliadau: Beth i'w Ddisgwyl

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad gyda’r ±«Óãtv mewn stiwdio deledu neu radio, rhaid i wneuthurwyr cynnwys ddilyn gweithdrefnau eithaf safonol. Mae’r fideo hwn yn amlinellu’r gweithdrefnau hynny mewn deg cam syml.

Beth i’w ddisgwyl os cewch chi eich cyfweld mewn stiwdio deledu neu radio

1. Y MANYLION.

Pan fyddwch yn cytuno i gyfweliad â’r ±«Óãtv, cewch wybodaeth am y lleoliad a phryd fydd y cyfweliad yn dechrau.

‘LLEOLIAD’. ‘AMSER’. ‘Y CYFWELYDD’. 

Cewch wybod hefyd os yw’r cyfweliad yn cael ei ddarlledu’n fyw neu’n cael ei recordio wyneb yn wyneb neu o bell.

‘WYNEB YN WYNEB’ neu ‘DOWN THE LINE’ ‘O BELL’.

2. ‘DIOGELWCH YN GYNTAF’

Ers Covid, rydyn ni’n addasu ein ffordd o weithio yn gyson er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

3. ‘HELO’

Byddwn yn cwrdd â chi pan fyddwch yn cyrraedd. Yn dibynnu ar faint yr adeilad, gallwch naill ai aros yn y dderbynfa neu fynd yn syth i’r stiwdio.

4. ‘AR YR AWYR’

Bydd cyfweliad byw yn cael ei gynnal gan gyflwynydd neu ohebydd, naill ai wyneb yn wyneb neu o bell, ac yn cael ei ddarlledu yn syth. 

5. ‘ODDI AR YR AWYR’

Gall cyfweliadau sy’n cael eu recordio ymlaen llaw naill ai gael eu cynnal gan gyflwynydd neu ohebydd wyneb yn wyneb, neu o bell. Mae modd golygu’r ddau fath yma o gyfweliad. 

6. ‘SÅ´N – YN Y STIWDIO’

Bydd gofyn i chi wisgo microffon bach. Ond, er mwyn osgoi problemau technegol, peidiwch â gwisgo dillad gwyrdd na streipiog. 

7. SÅ´N: O BELL

Ar gyfer cyfweliadau o bell, bydd angen i chi wisgo clustffon yn y glust er mwyn i chi allu clywed y cyflwynydd. Bydd gofyn i chi eistedd o flaen meicroffon ac, o bosibl, wisgo clustffonau ar eich pen. 

8. ‘Y CYFWELIAD’

Mae atebion sy’n para tua 30 – 40 eiliad yn gweithio’n dda ar gyfer y teledu. 

9  'VISION'

Hoeliwch eich sylw ar y cyflwynydd ac anwybyddu popeth o’ch cwmpas. Os ydych chi’n cael eich cyfweld o bell, edrychwch i mewn i’r camera.

10. ‘HWYL FAWR’

Cofiwch ofyn ble a phryd y gallwch chi wylio’r cyfweliad. Dylech chi allu gwylio cyfweliadau byw yn ôl hefyd.

50:50 ‘Y PROSIECT CYDRADDOLDEB’

 

 

Ers y coronafeirws, mae’r ±«Óãtv yn cynnal mwy o gyfweliadau dros alwadau fideo. Yn y fideo canlynol, mae Chanise Evans o’r ±«Óãtv yn rhoi cyngor ar gyfer paratoi am gyfweliad dros alwad fideo.

Chanise Evans yn rhoi cyngor ar gyfweliadau dros alwad fideo

Gall paratoi ar gyfer cyfweliad fideo fod yn broses eithaf brawychus, ond does dim rhaid iddi fod.

Dyma ambell awgrym i’ch helpu i dawelu eich meddwl a gwneud i’ch cyfweliad edrych yn wych.

Mae golau yn bwysig iawn. 

Byddai’n syniad i chi eistedd wrth ffenestr, fel bod digon o olau ar gael.

Er dweud hynny, peidiwch ag eistedd gyda golau y tu ôl i chi, mae’n bosibl y byddwch yn edrych fel hyn.

Os na allwch chi eistedd yn wynebu ffenestr, mae cau y llenni bob amser yn syniad da.

Byddwch chi angen pâr o glustffonau â microffon.

Byddai pâr safonol sy’n dod gyda ffôn symudol yn gweithio’n iawn.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi glutffonnau, ond cofiwch ystyried unrhyw synau y gall eich gliniadur ei glywed yn y cefndir.

Wrth ddewis beth i’w wisgo, meddyliwch am y gynulleidfa a’r pwnc rydych chi’n siarad amdano.

Os oes logo ar eich dillad, gofynnwch i'ch hun ‘A yw’r logo yn berthnasol i'r hyn rydych chi'n siarad amdano?’

Mewn stiwdio, neu o flaen sgrin werdd, peidiwch â gwisgo dillad gwyrdd na streipiog. 

Sicrhewch fod eich camera ar yr un uchder â’ch llygaid. 

Gan fod modd newid ei uchder, byddai defnyddio bwrdd smwddio fel stand yn syniad da.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio pethau eraill sydd i’w cael o gwmpas y tÅ·, fel bocsys teganau, llyfrau, neu focsys esgidiau.

Yn olaf, gwnewch yn siŵr nad oes dim yn y cefndir a allai dynnu sylw’r gwylwyr.

Cer allan o’r ’stafell os gwelwch yn dda.

 


  • Impact Report 2022

    The latest challenge results are out showing that data can effect change
  • ±«Óãtv stories

    See how ±«Óãtv teams have increased representation in their content
  • How it works

    50:50's three core principles explained and how we tailor them
  • Contact us

    Want to support our efforts to increase representation? Get in touch
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: