±«Óătv

Alla i ddefnyddio cynnwys y ±«Óătv?

Diweddarwyd: 31 Mawrth 2022

Rydyn ni'n derbyn nifer fawr o geisiadau gan bobl a sefydliadau sydd eisiau defnyddio cynnwys y ±«Óătv, gan gynnwys rhaglenni cyfan, clipiau, lluniau a chynnwys bbc.co.uk.

Pryd rydych chi angen caniatâd

I ddefnyddio unrhyw un o'r pethau yma...

  • Rhaglenni cyfan
  • Clipiau
  • Lluniau
  • Cynnwys
  • Ein logo neu fath arall o frandio
  • Metadata
  • Unrhyw beth sydd wedi’i dynnu o’n gwasanaethau i ddatblygu neu hyfforddi deallusrwydd artiffisial neu i wneud dadansoddiad cyfrifiadurol
  • Unrhyw beth arall sy’n cael ei ddiogelu gan hawlfraint
  • byddwch chi angen caniatâd.

Er weithiau, ni fyddwn yn gallu rhoi caniatâd i chi

...oherwydd dydyn ni ddim wastad yn berchen ar yr hawlfraint.

Mae ein cynnwys ni yn cynnwys gwaith pobl eraill yn aml. Er enghraifft, efallai bod yna ddelweddau, fideos a cherddoriaeth mewn rhaglenni teledu sy'n perthyn i artistiaid, actorion neu gerddorion. Neu efallai bod gennym drwydded i ddarlledu sioe, ond mai'r cwmni cynhyrchu sydd berchen arno.

Serch hynny, mae gennym beth cynnwys y gallwn roi caniatâd i chi ei ddefnyddio.

Rydyn ni'n aml yn derbyn ceisiadau am y pynciau isod. Darllenwch i weld beth allwn ni roi caniatâd i chi ei ddefnyddio.

Alla i chwarae rhaglen deledu neu radio cyfan i gynulleidfa?

Mae hynny’n dibynnu ar ble rydych chi ac ar gyfer beth rydych eisiau ei ddefnyddio.

Os ydych chi yn y DU a’i fod at ddibenion addysgol

Efallai y gallwch ddefnyddio rhaglenni cyfan neu glipiau at ddibenion addysgol os oes gan eich ysgol, coleg neu brifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol (ERA).  i gael rhagor o wybodaeth.

Am wybodaeth ynglĹ·n â thrwyddedu rhaglenni yn eu cyfanrwydd at ddibenion addysgol, cysylltwch â ±«ÓătvStudiosLearning@bbc.com.

Ar gyfer unrhyw beth arall, cysylltwch â ni yma (dolen Saesneg) i ddweud beth rydych chi eisiau ei wneud, gan gynnwys:

  • Pwy ydych chi
  • Manylion eich sefydliad (os yw’n berthnasol), gan gynnwys sut rydych yn cael eich ariannu.

Alla i ddefnyddio delweddau a sgrin-luniau?

Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd. Dyma sut i wneud...

I ofyn am brynu sgrin-luniau, anfonwch e-bost at dĂ®m Gwerthiant ±«Óătv Motion Gallery.

I holi am ddefnyddio lluniau oddi ar wefan ±«Óătv News, anfonwch e-bost at dĂ®m Caniatâd y Wefan Newyddion.

I holi am ddefnyddio unrhyw luniau rydyn ni’n berchen arnyn nhw, anfonwch e-bost at Lyfrgell Lluniau’r ±«Óătv.

Cofiwch...

Nid ni sydd biau'r rhan fwyaf o'r lluniau a ffotograffau a'r wefan ±«Óătv News. Ond, yn aml, dangosir pwy bynnag sydd biau'r rhain yng nghornel y sgrin. Dyna pam nad ydyn ni’n gadael i chi ddefnyddio lluniau a ffotograffau oddi ar ±«Óătv News at ddibenion masnachol.

Alla i gael trawsgrifiad o raglen deledu?

Dydyn ni ddim yn gwneud trawsgrifiadau o’n rhaglenni, felly allwn ni ddim eu darparu. Ymddiheuriadau am hynny.

Ond, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am raglenni ar .

Alla i ddefnyddio clipiau o raglenni?

Os ydych chi’n byw yn y DU, efallai y gallwch ddefnyddio clipiau at ddibenion addysgol os oes gan eich ysgol, coleg neu brifysgol drwydded Asiantaeth Recordiadau Addysgol (ERA). Ewch i .

Hefyd, efallai y gallwch ddefnyddio clipiau o dan eithriadau addysgol yr hawlfraint. Ewch i dudalen  i gael rhagor o wybodaeth.

Am wybodaeth ynglĹ·n â thrwyddedu rhaglenni yn eu cyfanrwydd at ddibenion addysgol, cysylltwch â ±«ÓătvStudiosLearning@bbc.com.

Gallwch ofyn am wybodaeth am brynu clipiau at ddibenion masnachol drwy anfon e-bost at dĂ®m Gwerthiant ±«Óătv Motion Gallery yn ±«Óătv.MotionGallerySales@gettyimages.com.

Dal methu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn? Cysylltwch â ni yma i ofyn am ganiatâd (dolen Saesneg). Cofiwch ddweud:

  • Pwy ydych chi
  • Manylion eich sefydliad (os yw’n berthnasol), gan gynnwys sut rydych yn cael eich ariannu.

Alla i brynu copi o raglen rydw i wedi ymddangos ynddi?

Efallai bod modd i chi brynu copi. Cewch wybod sut ar ein tudalen Mynediad i Gyfranwyr.

Alla i ddefnyddio logo a brand y ±«Óătv?

Mae’n dibynnu. Mae’n werth mynd i wefan Brandio’r ±«Óătv i gael gwybod yn iawn.

Alla i ailddefnyddio cynnwys oddi ar wefan ±«Óătv?

Fel arfer, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd.

I holi am ddefnyddio cynnwys oddi ar wefan ±«Óătv News anfonwch e-bost at dĂ®m Caniatâd y Wefan Newyddion.

I ofyn am ddefnyddio cynnwys oddi ar safleoedd eraill y ±«Óătv, cysylltwch yma (dolen Saesneg).

Cofiwch gynnwys gwybodaeth am yr hyn rydych chi eisiau e’i wneud â'r cynnwys a ble hoffech ei ddefnyddio.

Cofiwch...

Mae’n bosib bydd angen talu ffi.

Alla i ddefnyddio metadata a ffrydiau RSS y ±«Óătv?

Mae'n dibynnu ar gyfer beth mae ei angen...

Ar gyfer pobl

Nid oes gennych hawl i dynnu metadata o’n cynnwys neu ffrydiau RSS.

Gallwch ychwanegu ffrwd RSS ±«Óătv News at eich gwefan neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol. Ar yr amod:

  • Nad ydych yn newid y ffrwd RSS neu’n tynnu unrhyw un o’n brandiau neu logos
  • Eich bod yn rhoi cydnabyddiaeth i ni drwy ddweud ei fod yn dod o ±«Óătv News, bbc.co.uk/news neu bbc.com/news gan roi’r testun a’r hyperddolen mewn lle amlwg gerllaw
  • Nad ydych yn ychwanegu ein brandiau, logos ac ati, ar wahân i unrhyw frandio sydd eisoes wedi’i fewnblannu i’r ffrwd RSS.

Darllenwch sut i greu ffrwd RSS ±«Óătv News fan hyn.

Ar gyfer busnes

Bydd angen trwydded arnoch i ddefnyddio ein metadata (fel delweddau, testun, cyfryngau a’r dolenni iddynt). Gwnewch gais am drwydded metadata.

I ddefnyddio ein ffrydiau RSS at ddibenion busnes, bydd angen i chi gael caniatâd, ac efallai y bydd angen talu ffi

Ydi hi’n iawn darparu dolen i wefannau’r ±«Óătv?

Ydi, mae'n iawn i chi gysylltu ag URL ein gwefan ar yr amod nad ydych chi’n defnyddio logo'r ±«Óătv. Os ydych chi'n dymuno defnyddio logo’r ±«Óătv mae rhagor o wybodaeth yma.

Sylwch hefyd fod allbwn ein gwefan yn newid dros amser, felly gallai'r hyn y byddwch chi’n cysylltu ag ef fod wedi newid neu efallai na fydd ar gael ar ôl cyfnod penodol o amser.

Alla i ailddefnyddio cynnwys y ±«Óătv ar gyfer fy musnes?

Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi gael ein caniatâd ar gyfer unrhyw ddefnydd busnes, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi. Ceir mwy o fanylion fan hyn.

Change language: