±«Óãtv

Rhybudd Preifatrwydd ar gyfer uwchlwythiadau gan blant

Diweddarwyd: 8 Medi 2023

Rieni/gwarchodwyr! Mae’r rhybudd preifatrwydd yma wedi cael ei ysgrifennu fel bod eich plant yn deall – mae wedi ei ysgrifennu o safbwynt eich plentyn (e.e. ‘dy greadigaeth’ yw creadigaeth eich plentyn).

Yn 13 oed neu'n hÅ·n? Darllena hwn yn lle.

Rydyn ni eisiau dweud wrthot ti fod dy wybodaeth yn ddiogel gyda ni. Dyma air sydyn i adael i ti wybod sut rydyn ni’n delio gyda dy wybodaeth pan rwyt ti’n anfon creadigaeth atom ni.

Sut fath o wybodaeth ydych chi’n gofyn amdani?

Efallai y byddwn ni’n gofyn am wybodaeth amdanat ti, fel dy enw cyntaf, oedran neu’r dref lle rwyt ti’n byw.

Efallai y byddi di’n rhoi gwybodaeth amdanat ti dy hun yn y creadigaethau rwyt ti’n eu hanfon atom ni. Weithiau byddwn ni’n gallu dweud pwy wyt ti os wyt ti’n anfon llun neu fideo rwyt ti ynddo.

Paid ag anfon gwybodaeth breifat amdanat ti neu dy ffrindiau neu deulu atom ni.

Pam ydych chi’n gofyn am y wybodaeth yna?

Efallai y byddwn ni’n cyhoeddi dy greadigaeth. Mae hyn yn golygu y gallwn ei dangos ar un o’n rhaglenni teledu neu ar lein, er mwyn i bawb weld. Os ydyn ni’n cyhoeddi dy greadigaeth, efallai y byddwn ni’n dangos dy enw ac oedran fel fod pawb yn gwybod pwy greodd y campwaith!

Sut gall y ±«Óãtv ddefnyddio fy ngwybodaeth?

Mae’n rhaid i ni gael rheswm da er mwyn defnyddio dy wybodaeth bersonol. Ei enw yw ‘sail gyfreithiol dros brosesu’. Ar gyfer plant, y sail gyfreithiol yw ein bod ni’n gofyn i dy riant/gwarchodwr gytuno fod gan y ±«Óãtv dy greadigaeth a gwybodaeth amdanat ti. Mae hyn hefyd yn cael ei alw yn ‘rhoi caniatâd’. Oherwydd fod dy riant/gwarchodwr wedi cytuno, gallwn ni ddefnyddio’r greadigaeth a gwybodaeth yn y ffyrdd rydyn ni wedi ei ddweud wrthot ti a dy riant neu warchodwr, yn cynnwys pan mae’r greadigaeth yn cynnwys gwybodaeth arbennig, mwy sensitif, fel gwybodaeth am dy iechyd neu dy grefydd.

Gall dy rieni neu warchodwr newid ei feddwl. Os yw ynglÅ·n â chreadigaeth gen ti, gallan nhw gysylltu â ni.

Neu os ydyn nhw eisiau i ti stopio anfon dy greadigaethau atom ni, gallan nhw wneud hyn yng ngosodiadau eu cyfrif ±«Óãtv.

Sut ydych chi’n edrych ar ôl gwybodaeth amdanaf fi?

Rydyn ni’n ei gadw’n ddiogel.

Rydyn ni’n troi dy wybodaeth (ddim y greadigaeth ei hun) yn god cyfrinachol fel bod neb arall yn gallu ei weld.

Am faint ydych chi’n cadw’r wybodaeth sydd gennych chi amdanaf fi?

Byddwn ni’n cadw’r wybodaeth am 7 mlynedd.

Am faint byddwch chi’n cadw fy nghreadigaeth ar ôl i mi ei anfon i mewn?

Os ydyn ni’n cyhoeddi dy greadigaeth, gallwn ni ei ddefnyddio unrhyw le yn y byd, am byth, ac ar unrhyw gyfrwng. Mae mwy o wybodaeth ynglÅ·n â beth allwn ni ei wneud gyda dy greadigaeth yn ein Telerau Defnyddio.

Os nad ydyn ni’n cyhoeddi dy greadigaeth, byddwn ni’n dileu’r greadigaeth a’r wybodaeth o’n systemau o fewn 2 flynedd.

Beth fydd yn digwydd i fy nghreadigaeth os ydw i’n dileu fy nghyfrif ±«Óãtv?

Os yw wedi cael ei gyhoeddi, bydd dy greadigaeth yn aros wedi ei gyhoeddi hyd yn oed os wyt ti’n dileu dy gyfrif ±«Óãtv. Os wyt ti’n dileu dy gyfrif ±«Óãtv, byddwn ni’n dileu’r holl wybodaeth wnes di ei chyflwyno er mwyn i ni agor neu ddiweddaru dy gyfrif o fewn 2 flynedd. Efallai y bydd dileu dy gyfrif yn newid dy enw arddangos a bydd neb yn gwybod pwy wyt ti. Ond weithiau, allwn ni ddim newid enwau arddangos yn awtomatig, fel pan mae un o’n golygwyr wedi teipio dy enw arddangos i mewn.

Gyda phwy ydych chi’n rhannu gwybodaeth amdanaf fi?

Rydyn ni’n defnyddio cwmnïoedd eraill i’n helpu ni i ddarparu gwasanaethau, ac weithiau rydyn ni’n gofyn iddyn nhw brosesu gwybodaeth amdanat ti i ni. Er enghraifft, rydyn ni angen gwneud yn siŵr fod y creadigaethau rydyn ni’n eu cyhoeddi yn ddiogel ac addas, felly rydyn ni’n defnyddio cwmni o’r enw ICUC.Social i wirio’r creadigaethau. Rydyn ni bob amser yn gwneud yn siŵr fod gwybodaeth amdanat ti yn cael ei ddiogelu fel petasen ni’n delio â hi ein hunain. Rydyn ni’n dewis y cwmnïoedd yn ofalus, ond yn rhannu’r wybodaeth maen nhw ei angen er mwyn gwneud y gwaith, ac rydyn ni’n gwneud yn siŵr eu bod yn ei chadw’n ddiogel.

Fyddwn ni ddim yn rhannu gwybodaeth amdanat ti gydag unrhyw un arall, heblaw am mewn achosion arbennig fel pan byddai’n helpu i dy gadw’n ddiogel.

Dysgu mwy!

Darllenwch Polisi Preifatrwydd Plant y ±«Óãtv a’n tudalennau preifatrwydd, lle fyddi di’n dod o hyd i Polisi Preifatrwydd a Chwcis y ±«Óãtv a llawer mwy am sut ydyn ni’n delio gyda gwybodaeth amdanat ti, dy hawliau, a beth i’w wneud os gen ti gwestiwn neu gwyn.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: