±«Óătv

Sut alla i stopio fy mhorwr rhyngrwyd rhag olrhain fy ngwybodaeth?

Diweddarwyd y dudalen: 24 Ionawr 2017

Gallwch newid gosodiadau'ch porwr er mwyn iddo ddweud wrthych chi pan fydd cwcis yn cael eu hanfon ato. Neu gallwch wrthod cwcis yn llwyr. Ewch i adran Help eich porwr i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch newid gosodiadau cwcis y ±«Óătv yma. Ac mae mwy o wybodaeth am cwcis yn gyffredinol ar gael yma.

Sut mae porwyr gwe yn olrhain fy ngwybodaeth?

Maent yn defnyddio offer technegol amrywiol, gan gynnwys:

  • Cwcis
  • Cyfeiriadau IP
  • Cyfeiriwr HTTP
  • Sgriptiau olrhain
  • Asiantau defnyddiwr
  • Adnabod Ă´l bys porwr

Y gosodiad “Do Not Track” (DNT)

Mae gan rai porwyr rhyngrwyd osodiad DNT. Mae hwn yn anfon signal i wefannau yn gofyn iddyn nhw beidio ag olrhain eich pori.

Nid yw hwn yn gweithio gyda gwefannau’r ±«Óătv ar hyn o bryd. Ond gallwch bob amser newid gosodiadau eich cwcis ar y ±«Óătv yma.

Sut i osgoi ffaglau gwe a thechnolegau olrhain eraill

Gallwch fel arfer eu gwneud yn aneffeithiol drwy ddiffodd cwcis yn eich porwr. Mae yna hefyd ychwanegiadau ac ategion y gallwch chi eu cael i'ch porwr sy'n atal ffaglau gwe.

Er mwyn osgoi ffaglau gwe mewn negeseuon e-bost, gallwch ddiffodd delweddau yn eich gwasanaeth e-bost. Ewch i adran Help eich e-bost i gael gwybod sut.

Mae rhagor o wybodaeth am y technolegau olrhain hyn ar gael yma.

Change language: