±«Óãtv

Pa negeseuon e-bost a chylchlythyrau fydd y ±«Óãtv yn eu hanfon ata’ i?

Diweddarwyd y dudalen: 14 Rhagfyr 2021

Pan rydych chi'n cofrestru, rydym yn gofyn am ganiatâd i anfon e-byst atoch chi. Os gytunwch chi, byddwch chi'n derbyn cylchlythyrau rheolaidd ynglÅ·n â'r rhaglenni, gwasanaethau a phrofiadau diweddaraf ar draws y ±«Óãtv. Weithiau, byddwn yn personoleiddio eich cylchlythyr yn ôl sut rydych chi wedi defnyddio gwefannau ac apiau'r ±«Óãtv pan ydych chi wedi mewngofnodi.

Oes gennych chi ddiddordeb? Gallwch hefyd danysgrifio i'r cylchlythyrau yma.

Cofia, os wyt ti o dan 16, bydd rhaid i ti gael caniatâd rhiant neu warchodwr.

Cylchlythyrau eraill y gallwch chi danysgrifio iddynt

  • ±«Óãtv News Daily - tanysgrifiwch i'n cylchlythyr er mwyn derbyn ±«Óãtv News yn syth i'ch e-bost, bob bore Llun i Gwener
  • ±«Óãtv World Service - cymerwch olwg ar y byd tu hwnt i'r penawdau gyda chylchlythyr y World Service
  • ±«Óãtv Media Action - dyma elusen ryngwladol y ±«Óãtv - rydyn ni'n credu mewn defnyddio'r cyfryngau a chyfathrebu mewn modd cadarnhaol 

Yn ogystal, mae yna gylchlythyrau ynghylch sianeli a rhaglenni penodol y ±«Óãtv hefyd. Gallwch danysgrifio i'r rhain drwy bori'r ±«Óãtv.

Mae rhai negeseuon e-bost yn hanfodol

Fel negeseuon i ailosod eich cyfrinair neu ddilysu eich cyfeiriad e-bost. Ni fyddwn yn anfon y negeseuon hyn atoch chi oni bai fod gwir angen gwneud hynny.

Ddim eisiau derbyn cylchlythyr ddim mwy?

Gallwch ddad-danysgrifio o gylchlythyrau unrhyw bryd. Cliciwch y botwm "Unsubscribe" ar waelod yr e-bost.

Ar gyfer y cylchlythyrau Discover more from the ±«Óãtv a ±«Óãtv News Daily, gallwch hefyd danysgrifio neu ddad-danysgrifio yn eich .

Tu allan i'r DU?

Tu allan i'r DU, mae gwasanaethau'r ±«Óãtv wedi eu hariannu'n fasnachol. Os ydych chi wedi rhoi caniatâd ar wahân i'n cangen fasnachol, ±«Óãtv Global News, efallai y byddan nhw hefyd yn cysylltu â chi ynglÅ·n â nwyddau neu wasanaethau'r ±«Óãtv.

Yn ogystal, efallai na fyddwch chi'n gallu derbyn yr holl gylchlythyrau sydd ar gael o fewn y DU.

Mae eich data yn gyfrinachol

Pan fyddwn ni’n defnyddio sefydliadau eraill i anfon cylchlythyrau ar ein rhan, bydd eich cyfeiriad e-bost wedi ei warchod bob amser. Darllenwch fwy am eich gwybodaeth a'ch preifatrwydd.

Change language: