Diweddarwyd: 12 Medi 2022
Os ydych chi’n blentyn, rhiant neu warchodwr, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydych chi wedi mewngofnodi i gyfrif ±«Óătv yn barod ar y ddyfais rydych chi’n ei defnyddio.
Sut i weld os ydych chi wedi mewngofnodi'n barod
1. Edrychwch ar dop y dudalen yma. Ydych chi’n gweld “Eich cyfrif” neu enw arddangos wrth ymyl logo’r ±«Óătv? Mae hyn yn golygu eich bod chi wedi mewngofnodi i gyfrif ±«Óătv arall yn barod.
2. Cliciwch “Eich cyfrif” neu’r enw arddangos.
3. Ar y dudalen nesaf, cliciwch "Allgofnodi". Os ydych chi ar ddyfais symudol, efallai y bydd rhaid i chi glicio ar "Dewislen" gyntaf.
Yna cofrestrwch am gyfrif plentyn
Unwaith rydych chi wedi allgofnodi o unrhyw gyfrif ±«Óătv arall, gallwch gofrestru am gyfrif plentyn. Dyma sut:
1. Ar unrhyw un o wefannau’r ±«Óătv, cliciwch ar “Mewngofnodi” ar dop y dudalen. Mae hwn wrth ymyl logo’r ±«Óătv.
2. Ar y sgrin nesaf, cliciwch ar “Cofrestru nawr”.
3. Yna dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i roi eich manylion.
4. Os ydych chi'n iau na 13 oed, bydd rhaid i chi ofyn i'ch rhiant neu warchodwr greu cyfrif ±«Óătv i chi. Bydd rhaid i chi ddewis enw defnyddiwr a chyfrinair. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio'r rhain. Os fyddwch chi'n anghofio eich cyfrinair, ni fyddwch i'n gallu ei ail-osod. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi ofyn i'ch rhiant neu warchodwr i greu cyfrif newydd.
Rhoi’r rheolaeth i'r rhieni
Unwaith maen nhw wedi cofrestru am gyfrif ±«Óătv, mae angen i blant dan 13 oed gael caniatâd gan riant neu warchodwr cyn gallu gwneud pethau fel:
- Postio sylwadau ar wefannau plant y ±«Óătv
- Cael argymhellion personol a gwylio sioeau o’r fan wnaethoch chi orffen ddiwethaf
- Derbyn hysbysiadau am y pethau maen nhw'n eu hoffi
- Llwytho cyfraniadau ar gyfer cystadlaethau, gemau a mwy