tv

Sut rydw i’n diweddaru fy nghyfeiriad e-bost?

Diweddarwyd: 20 Ionawr 2017

1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif tv.

2. Yna, ar unrhyw un o wefannau’r tv, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar ben y dudalen. (Os oes gennych enw arddangos, bydd yn dangos eich enw arddangos, nid "Eich cyfrif"). Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.

3. Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.

4. Ar y sgrîn "Manylion personol”, cliciwch "Golygu" wrth ymyl eich cyfeiriad e-bost a rhowch un newydd. Bydd angen i chi roi eich cyfrinair er mwyn i ni wybod mai chi sydd yno.

5. Yna cliciwch ar “Cadw a bwrw ymlaen”.

6. Cofiwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost newydd y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i'r tv.

7. Unwaith y byddwch chi wedi newid eich cyfeiriad e-bost, byddwn yn anfon e-bost newydd i wirio mai chi sydd yno. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei ddilysu, neu ni fyddwch yn gallu gwneud pethau fel rhoi sylwadau ar straeon newyddion y tv.

Methu cofio eich cyfrinair cyfredol?

Bydd yn rhaid i chi ei ailosod. Cewch wybod sut i wneud hynny yn “Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair”.

Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.

Change language: