±«Óătv

Sut rydw i'n newid fy enw arddangos?

Diweddarwyd: 19 Mai 2021

Dim ond os ydych chi eisiau gwneud unrhyw beth cyhoeddus ar wefan neu ap y ±«Óătv y bydd angen enw arddangos arnoch chi (er enghraifft, i roi sylwadau ar stori newyddion y ±«Óătv). Neu i fewngofnodi i iPlayer ar eich teledu.

Dyma sut i newid eich enw arddangos:

1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif ±«Óătv.

2. Yna, ar unrhyw un o wefannau’r ±«Óătv, cliciwch ar eich enw arddangos ar ben y dudalen. Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.

3. Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.

4. Ar y sgrin "Manylion personol”, cliciwch ar "Golygu" wrth ymyl eich enw arddangos a rhowch un newydd.

5. Yna cliciwch ar “Cadw a bwrw ymlaen”.

Cofiwch, allwch chi ddim newid eich enw arddangos os nad ydych chi wedi creu un eto. Dyma sut gallwch greu enw arddangos.

Nodyn am newid eich enw arddangos

Bydd eich enw arddangos newydd yn ymddangos wrth ymyl unrhyw sylwadau newydd a wnewch ar y ±«Óătv. Ond efallai y bydd sylwadau hĹ·n yn cymryd mwy o amser i newid i’ch enw arddangos newydd.

Byddwn yn gwrthod unrhyw enw arddangos sydd, yn ein barn ni, yn ddigywilydd.

Os bydd hynny’n digwydd i chi, dewiswch rywbeth gwahanol.

O dan 13 oed? Dyma nodyn arall...

Fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio eich enw arddangos newydd ar gyfer unrhyw beth cyhoeddus nes iddo gael ei gymeradwyo gan riant neu warcheidwad. Dyma sut i gael eu caniatâd.

Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.

Change language: