±«Óãtv

Help i fewngofnodi

Mewngofnodi i’ch Cyfrif ±«Óãtv

Diweddarwyd: 6 Mawrth 2023

Am ba mor hir fydda i wedi cael fy mewngofnodi?

Fel arfer, byddwch wedi mewngofnodi am ddwy flynedd, oni bai eich bod chi’n allgofnodi, yn dileu eich cwcis neu’n dileu eich ap. Cewch ragor o wybodaeth am gwcis fan hyn.

Ar ôl dwy flynedd byddwn yn gofyn i chi fewngofnodi eto. A gallwch chi fewngofnodi gyda chyfrifon gwahanol ar yr un ddyfais.

Dileu cyfrifon segur

O dro i dro, rydyn ni’n dileu cyfrifon ±«Óãtv sydd heb gael eu defnyddio ers dros flwyddyn.

Efallai y byddwch wedi derbyn e-bost sy’n dweud y byddwn yn dileu eich cyfrif ar ôl 13 Mawrth 2023. I gadw’r cyfrif yn weithredol, gallwch fewngofnodi’n uniongyrchol yn hytrach na chlicio ar y ddolen yn yr e-bost.

Darllenwch fwy am gau cyfrifon ±«Óãtv.

Cael trafferth mewngofnodi?

Cymerwch olwg ar y pynciau canlynol i gael gwybod sut i ddatrys y broblem.

Change language: