±«Óãtv

Ychwanegu pethau ar y ±«Óãtv

Diweddarwyd y dudalen: 5 Awst 2019

Mae ychwanegu yn ffordd dda o gofio pethau ar gyfer wedyn a mynd yn syth at y cynnwys sy’n bwysig i chi.

Weithiau, byddwn yn defnyddio'r pethau rydych yn eu hychwanegu i argymell cynnwys arall y byddech, yn ein tyb ni, yn ei hoffi. Ac weithiau byddwn yn rhoi hysbysiadau i chi amdanyn nhw, fel pennod newydd o raglen rydych wedi’i hychwanegu. Os ydych yn dymuno, gallwch ddewis peidio â derbyn yr hysbysiadau yma.

Fel arfer, mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu pethau. Y rheswm am hynny yw er mwyn i ni allu cofio popeth rydych wedi’i ychwanegu ac i chi gael mynediad ato ar unrhyw ddyfais.

Sut ydw i'n ychwanegu pethau?

Gallwch ychwanegu unrhyw beth sydd â botwm Ychwanegu wrth ei ymyl, gan gynnwys:

  • Rhaglenni teledu a radio
  • Clipiau Fideo a Sain
  • Pynciau newyddion (yn yr ap ±«Óãtv News yn unig)
  • Pynciau chwaraeon
  • Ryseitiau

Gallwch ychwanegu gynifer ag y dymunwch. Ond, dim ond 10 pwnc y gallwch eu hychwanegu yn yr ap ±«Óãtv News. Ymddiheuriadau am hynny.

Sut mae gweld neu dynnu pethau rydw i wedi’u hychwanegu?

Mae gan wahanol rannau o’r ±«Óãtv eu hadrannau eu hunain ar gyfer y pethau rydych wedi’u hychwanegu. Er enghraifft, yn iPlayer, maent yn cael eu hychwanegu at yr adran Fy Rhaglenni. Yn ±«Óãtv Sport maent yn cael eu hychwanegu at yr adran My Sport.

Gallwch gael gafael ar bethau rydych wedi’u hychwanegu a’u tynnu i ffwrdd ymhob adran. Ond cofiwch y bydd tynnu unrhyw beth yn golygu na fyddwch yn cael unrhyw argymhellion na hysbysiadau cysylltiedig.

Alla i ddim dod o hyd i’r pethau rydw i wedi’u hychwanegu

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi. Os nad ydynt yn ymddangos wedyn, efallai eich bod wedi’u hychwanegu pan nad oeddech wedi'ch mewngofnodi.

Sut mae rhannu'r pethau rydw i wedi’u hychwanegu?

Gallwch rannu pethau drwy ddefnyddio'r botwm Rhannu.

Change language: