Main content

Tocynnau Teulu

Cyflwynwch rywun ifanc i gerddoriaeth gerddorfaol fyw!

Rydym yn sylweddoli bod cost cyngherdda'n gallu bod yn bur ddrud a chithau am ddod â'r teulu i gyd, a dyna pam rydym yn cynnig ein Cynllun Tocynnau Teulu arbennig trwy hyd a lled Cymru.

Faint mae’n ei gostio?

Mae Tocynnau Teulu’n costio cyn lleied â £15 i 1 oedolyn a 1-2 o blant 16 ac iau, neu £20 i 2 oedolyn a 1-4 o blant 16 ac iau.

Does rhaid i chi ond rhoi gwybod i ni sawl oedolyn a phlentyn ddaw yn gwmni i chi pan fyddwch chi'n codi tocynnau.

Beth am raglenni?

Yn y cyngerdd gewch chi godi nodiadau Rhaglen Teulu am ddim wedi'u llunio'n arbennig i blant naw mlwydd oed a throsodd. Maen nhw ar gael o ddesg wybodaeth y Gerddorfa.

Ydi'r cyngherddau'n addas ar gyfer pob oed?

Rydym yn perfformio amrywiaeth eang o gyngherddau bob blwyddyn, gan gynnwys rhai wedi'u llunio'n arbennig i bobol ifanc.

Mae hyd pob darn yn amrywio, a rhai'n para hyd at 90 munud yn un o gyngherddau'r prif dymor. Fel arfer mae yna egwyl 20 munud ac os oes angen gallwch adael rhwng darnau.

Does gennym ni ddim cyfyngiad oed o ran dod i'n cyngherddau gan ei bod yn dibynnu'n arw iawn ar y plentyn. Fel arfer rydym yn argymell bod cyngherddau ein prif dymor yn addas ar gyfer plant 7+.

Pa gyngherddau ddylem ni roi cynnig arnyn nhw?

Yn ein tyb ni mae’r cyngherddau yma’n fan cychwyn rhagorol. Welwch chi restr lawn ein digwyddiadau yn ein Dyddiadur Cyngherddau.

Cysylltu

Mae tîm ein Llinell Cynulleidfaoedd wrth law i’ch arwain chi drwy bob agwedd ar y cyngerdd ac i argymell y llefydd gorau i eistedd gan ddibynnu ar oed y plant.

Rhowch ganiad i’n Llinell Cynulleidfaoedd ar 0800 052 1812 neu ebostio now@bbc.co.uk