Main content

Poen cyn pleser i Gymru o dan Bellamy?

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried beth i ddisgwyl gan Gymru yng ngêm gyntaf Craig Bellamy.

Mae yna gyffro mawr ymysg Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth i gyfnod newydd i Gymru o dan Craig Bellamy gychwyn nos Wener yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd. Beth fydd y tactegau, pa siâp fydd i'r tîm, pwy fydd yn cychwyn? Ac yn bwysicach oll, beth fydd Bellamy yn ei wisgo wrth ochr y cae..?

Cawn hefyd atgof hyfryd gan Malcolm o gyfarfod Sol Bamba, yn dilyn y newyddion hynod drist am farwolaeth ddiweddar cyn amddiffynnwr Caerdydd.

Release date:

Available now

47 minutes

Podcast