Cyffro'r Cae Ras ond Y Seintiau'n colli cyfle
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod gemau agoriadol y tymor ac yn darogan pwy fydd pencampwyr Lloegr.
Diolch byth am Wrecsam! Yr unig glwb i ennill ar ddiwrnod agoriadol y Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr. Roedd Dyl yno yng nghanol y cyffro ar y Cae Ras, gan hefyd sgwrio efo neb llai na Rob Mcelhenney (fydden nhw'n ffrindiau pennaf cyn hir dwi'n siŵr).
Doedd pethau ddim cystal i'r Seintiau Newydd wrth iddyn nhw golli yn Ewrop, a doedd Owain druan ddim rhy hapus wrth i'w goesau jiráff brofi'n broblem unwaith eto wrth drio sylwebu.
Mae'n amser darogan pedwar uchaf a thri isaf Uwch Gynghrair Lloegr eto.. digon o anghytuno ac ambell i ddewis dryslyd iawn.
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed