Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

O Kyiv i'r creigiau

Drama verbatim gan Ian Rowlands am brofiad Larysa Martseva yn ffoi o’r rhyfel yn Wcráin. Play based on Larysa Martseva's experience of fleeing the war in Ukraine.

Drama verbatim gan Ian Rowlands, am brofiad Larysa Martseva yn ffoi o’r rhyfel yn Wcráin.

Mi oedd Larysa Martseva yn un o brif gynhyrchwyr teledu Wcráin, ond un diwrnod fe ddeffrodd a thu allan i ffenestr ei hystafell fyw gwelodd bod tanc Rwsiaidd yn anelu amdani. Wedi ychydig o fyw dan lach y Rwsiaid fe benderfynodd hi a dau deulu arall ddianc.

Dyma stori’r daith honno, stori ysgytwol sy’n arwain Larysa i Gymru. Cenedl loches yw Cymru a dyma hanes un a ddarganfu loches o erchyllterau'r rhyfel yn Wcráin.

Cast: Larysa Martseva, Ian Rowlands, Sian Reese-Williams, Yurii Radionov a Shorena Shoniia-Radionova