Aberystwyth v Caerdydd v Port Talbot
Straeon o blentyndod a bywyd cynnar Mel, Mal Jal a’u profiadau mewn tair ardal wahanol.
Pa ddylanwad mae ardal eich magwraeth yn ei gael arnoch chi? Yn y bennod drawiadol yma cawn straeon o blentyndod a bywyd cynnar Mel, Mal a Jal a’u profiadau wrth dyfu fyny mewn tri rhan gwahanol o Gymru.
Mae Melanie yn egluro sut y gwnaeth agweddau ac ymddygiad pobl eraill effeithio ar y ffordd roedd hi’n meddwl am ei hun fel person ifanc, a Mali a Jalisa yn trafod sut mae ardaloedd eu cartrefi nhw wedi newid.
Oes gwahaniaeth rhwng magwraeth ddinesig a chefn gwlad? A pam fod disgwyliadau ychwanegol yn cael eu gosod ar bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol?
Yn y bennod agored ac emosiynol yma mae Mel, Mal a Jal yn ailymweld â phrofiadau ffurfiannol da a drwg, yn trafod pwysigrwydd cynrychiolaeth weladwy a’n gofyn beth all cymdeithas ei wneud yn well.
Yng ngeiriau Mal: “Dychmyga byddom ni’n adnabod ein gilydd yn 8 oed, faint byddai rhannu'r profiadau yma gyda’n gilydd wedi helpu”.
Podlediad
-
Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad
Mel, Mal a Jal sy'n cyrraedd ±«Óătv Sounds i drafod y pethau sydd o bwys iddyn nhw.