Main content

Cân y Babis - Hydref 2021

BABIS YR HYDREF 2021

Daeth yr haf eto ‘leni i'w derfyn,
Daeth yr hydref a'i ddrama a'i liw,
Ac yn disgyn ar bob deilen fach yn dawel
Ar yr awel, daeth babis yma i fyw.
Coch a melyn ac oren oedd lliwiau
Y blancedi i'w cadw nhw'n glud,
Babis bychain mis Medi a Hydref
Sy' 'di cyrraedd yn gariad i gyd.

Erin Medi ac Awen Glwys Osian,
Bedw LlÅ·n, Elin Ann, Beca Lyn,
A'r tripledi bach a laniodd ym Mhorthmadog,
Osian Huw, Elgan Rhys, Mali Wyn.
Myrddin Ieuan a Jac Elgan Reynolds Chappelle,
Siwan Medi, Llew Dafydd, Nansi Grug,
Gwen Trefor, Nel Gwenllian, Tudur Harri,
Rhain oedd babis mis Medi i gyd.

Wedyn daeth mis Hydref,
Yn wynt a glaw a heulwen am yn ail,
Ac wedi ffeindio cartref
Mae Martha Rhys a Gruffydd Glyn,
A Madi Fflûr ac Ania Gwyn.

Tristan, Anni Soffia, Efa Mared,
Mared Gwen, Neli Glenys , Dewi John
Gwilym Ifan, ac Eira Gwen Hazel,
Elis Glyn, Marged Alys a phwy yw hon?
Wel Penny Nel gyda'i theulu newydd sbon.
Croeso atom ni, fabis bach llon.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Dan sylw yn...