Main content

Cerdd Aneurin Karadog i Llwybr Llaethog

Ar Draws y Llwybr Llaethog

Mae na sŵn ar rimyn y sêr, sŵn bâs
sy'n bod heb i amser
ei rwydo, sŵn rhyw hyder,
a nofio mae yn fy mêr.

Drwy'r wlad â dau ar y lôn, dau broffwyd
i briffyrdd y cyrion;
dynesa dawns yn y dôn,
glaniant dan fwg olwynion.

Jon a Kevs yw injan cân, rev ar rev
rhua hafau cyfan;
tanio wna atgo o gytgan,
tanio fy hit yn y fan.

Yng Ngwesty Gedru fe gei wydrau llawn
a lluniaeth curiadau,
cei wledd barod o nodau
drwy'r ddau ŵr sy'n dy ryddhau.

Mi welaf fesul miliwn y sylltau'n
cysylltu yn ffortiwn;
o loywder y sêr daw sŵn
â'i lu'n goleuo Annwn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

57 eiliad

Dan sylw yn...