Main content

Gŵyl Psylence '24, cynyrchiadau 'Olion - rhan II - Yr Isfyd' ac 'Iphigenia yn Sblot a mwy

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni Wini Davies sydd yn adolygu cyfrol newydd ‘The Crazy Truth’ gan Gemma June Howell, awdur sydd â’i gwreiddiau yng Nghwm Rhymni.

Mae Alun Llwyd yn galw heibio’r stiwdio i drafod 'Psylence '24' – gŵyl sydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Pontio, Bangor y penwythnos nesaf i ddathlu a chofio am y diweddar Emyr Glyn Williams, un o sylfaenwyr cwmni recordiau Ankst.

Drama 'Half Lives' ar ±«Óãtv Radio 4 yn ddiweddar sydd yn cael sylw’r actor Dion Lloyd, tra bod Mared Llywelyn a Myfi Morris yn adolygu cynhyrchiad llwyfan Theatr y Sherman 'Iphigenia yn Sblot'.

Y sylwebydd celf Mari Griffith sydd yn trafod arddangosfa fawr Van Gogh, 'Poets and Lovers' yn y National Gallery yn Llundain.

Ac yna i gloi, mae Catrin Jones-Hughes yn cyflwyno ei hail adolygiad o gynhyrchiad arbrofol, uchelgeisiol a chyfoes Frân Wen o chwedl Arianrhod, sef 'Olion - rhan II - Yr Isfyd'.

27 o ddyddiau ar ôl i wrando

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Sul 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Super Furry Animals

    Y Teimlad

    • Mwng CD1.
    • PLACID.
    • 8.
  • Adwaith

    Addo

    • Libertino Records.
  • Lleuwen Steffan

    PAM

  • Melin Melyn

    Dewin Dwl

    • Bingo Records.
  • Mari Mathias

    Y Goleuni

  • Bando

    Y Nos Yng Nghaer Arianrhod

    • Goreuon Caryl.
    • Sain.
    • 6.
  • Geraint Lovgreen

    Yma Wyf Finna I Fod

    • Deugain Sain - 40 Mlynedd.
    • Sain.
    • 9.
  • Overture, Grażyna Bacewicz & ±«Óãtv National Orchestra of Wales

    Overture - Grazyna Bacewicz + ±«Óãtv NOW

  • Wandering & Catrin Finch & Aoife Ni Brihain

    Wandering - Catrin Finch + Aoife Ni Bhriain

  • Lleucu Gwawr

    Llongau Caernarfon

    • Artistiaid Amrywiol - Mae'r Tonnau'n Tynnu - Shantis a Chaneuon y Mor.
    • SAIN.
    • 2.

Darllediad

  • Dydd Sul 14:00